Cofnodion o gyfarfod cyngor cymuned Llanfair - 18/09/24

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair 18/09/24

YMDDIHEURIADAU

Cllr. Osian Edwards, Guy Slater.

 

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Mair Thomas,, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Jodie Pritchard a Ms Lynne Griffiths dwy o Gyfarwyddwyr Bwrdd HAL i’r cyfarfod

Cafwyd wybod bod y ganolfan wedi cau ers y 1af o Awst oherwydd problemau ariannol. ‘Roedd y safle ar agor ers 2010 ag ‘roedd eisiau cymeryd y cyfle i ddiolch i bob Cyngor Cymuned am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. Mae y staff erbyn hyn i gyd wedi cael eu diswyddo. Mae dal costau angen eu talu ers i’r ganolfan gau ag yn gofyn os byddai y Cyngor Cymuned yn dal i gefnogi HAL nes byddant wedi penderfynnu beth yw y gorau i’r ganolfan. Maen’t wedi gwerthu rhai asedau yn barod er mwyn cael cadw’n solvent ag yn datgan bod penderfyniad y Cyngor Cymuned yn anfodol er mwyn dyfodol y ganolfan. Cafwyd trafodaeth llawn iawn ynglyn ar ffaith a oedd y Cyngor hwn yn mynd i barhau i gyfranu o dan y cynllun precept neu beidio a gyda chalon drom cytunwyd yn unfrydol i beidio a chyfranu ar hyn o bryd nes byddai y Cyngor yn gwybod mwy am ddyfodol y safle. Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn barn yr Archwiliwr Mewnol ynglyn ar mater hwn ag ei bod wedi cael ateb yn datgan os mae’r safle wedi cau, a nid oes disgwyl i'r lle ail agor eto, yna mae natur y berthynas wedi newid, h.y. mae’r bwriad gwreiddiol o gyfrannu arian "er mwyn cadw y pwll nofio yn agored" ddim yno bellach, a felly does dim sail i barhau y cyfraniadau gan fod gan y Cyngor ddyletswydd i warchod arian cyhoeddus, ond ‘roedd yn awgrymu bod y Cyngor yn cysylltu gyda Un Llais Cymru ynglyn a hyn er mwyn cael cadarnhad o’r sefyllfa ag adroddodd y Clerc ei bod wedi gwneud hyn ond heb gael ateb ganddynt eto.

 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 17eg 2024 fel rhai cywir.

 

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £12,504.11 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £523.91 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc bod y wi-fi bellach yn gweithio yn y neuadd.

 

Wefan y Cyngor

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Owen Brown bod wefan y Cyngor bellach fyw.

 

Bedd Ben Rowlands

Angen tynnu y darn gwaelod a rhoid y groes i sefyll a gosod plac ar y gwaelod gyda’r dyddiad a beth oedd ei waith yn y pentre arno. Cytunodd y Cyng. Hywel Jones wneud y gwaith hyn a dywedodd y Clerc y byddai yn gofyn i gwmni Pritchard a Griffiths a fyddai modd iddynt ddylunio’r plac gyda enw, dyddiad ei eni a marw a beth oedd ei waith sef gof y pentre arno.

 

Coed ger yr Eglwys

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mrs Wendon Wigglesworth ar ran yr Eglwys ynghyd a lluniau yn dangos y coed ar hyd ochor y llwybr sydd yn arwain at ddrws yr Eglwys wedi gor-dyfu yn sylweddol ag yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor drefnu bod rhywun yn dod i docio y coed hyn yn nol fel yn y gorffennol. Cytunwyd gofyn i Tree Fella wneud y gwaith hyn fel yn y gorffenol.

 

HAL

Wedi ei drafod yn barod ar ddechrau y cyfarfod.

 

Ceisiadau Cynllunio

Trosi adeilad amaethyddol segur yn anecs, ystafell cyfleustodau a gweithdy mewn cysylltiad â ffermdy cyfagos, ffurfio gardd ac ardal patio a gosod tanc septig a draenio cysylltiedig Tyddyn Rhyddid, Llanfair (NP5/66/57A)

Cefnogi y cais hwn ond eisiau nodi iddynt mae yn plwyf Llanfair mae Tyddyn Rhyddid a nid plwyf Llanbedr.

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £14,743.61 yn y cyfrif rhedegol a £5,667.48 yn y cyfrif cadw.

 

Taliadau yn ystod y mis

BT - £51.02 – rhent wi-fi y neuadd (direct debit newydd)

Mr. Arwel Thomas - £620.00 – torri gwair y fynwent x 2

Cyngor Gwynedd - £384.00 - archwiliad mewnol 2023/24

Archwilio Cymru - £300.00 - archwiliad allanol 2021/22

Mr. Elfyn Pugh - £1,600.00 - codi wal yn y fynwent

Mr. Roy Carter - £564.00 - torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis

Cyllid a Thollad - £124.80 - treth ar gyflog y Clerc

 

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cyng. David John Roberts gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Awst)

Cyngor Gwynedd - £9,000.00 - hanner y precept

Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Medi)

 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion oedd wedi cael eu codi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan oherwydd bod y tyfiant sydd yn dod o Rhiwcenglau i’r ffordd yn dod o dir preifat byddant yn anfon llythyr i’r perchennog gyda cais eu bod yn torri’r gordyfiant o fewn 21 diwrnod ag os na fydd hyn yn cael ei wneud byddant yn dilyn y broses gyfreithiol a cyflwyno Rhybudd ar y perchennog.

 

Ms Sioned Williams

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn dilyn cyfarfod diwethaf y Cyngor ynglyn a chael goleuadau nadolig ar hyd ochor y ffordd o Llandanwg i fyny at Frondeg ag yn datgan ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn a bod y gost o osod uned yn £128 yr un, a byddant yn codi £250 y postyn lamp am osod bocs PVC gyda soced RCD ag hefyd am osod/tynnu y goleuadau cyn ag ar ol y nadolig ag felly byddai bob uned yn costio £378 am y flwyddyn gyntaf. Byddai y gost yn y blynyddoedd canlynol yn llai a byddai ddim ond yn gorfod talu y gost o rhoid i fyny a tynnu i lawr ag hefyd byddai y Cyngor yn berchen ar y goleuadau am eu bod wedi talu am archebu nhw. Cytunwyd bod angen gwybod beth fyddai y gost flynyddol o’i rhoid i fyny a tynnu i lawr ar ol y flwyddyn gyntaf ag hefyd datgan bod yr Aelodau yn teimlo ei fod yn rhy hwyr eleni i wneud y gwaith hwn.

Hefyd yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a chael biniau ysbwriel ail gylchu i lawr yn maes parcio Llandanwg. Cytunwyd i wneud hyn.

 

UNRHYW FATER ARALL

Eisiau gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai modd torri y gwair ar eiddew ger Castellfryn.

 

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd ei bod wedi derbyn e-bost ynghyd a llun gan y Cyng. Mair Thomas yn dangos y bin baw cwn yn maes parcio Llandanwg wedi malu ag ‘roedd wedi anfon hyn ymlaen at Mr. Steffan Jones a oedd wedi cael rhai i osod bin newydd yna y diwrnod canlynol ag hefyd tocio o’i chwmpas. ‘Roedd wedi derbyn e-bost arall gan y Cyng. Mair Thomas yn gofyn a fyddai’n bosib cael yr hysbysfwrdd wedi ei ail osod ar y wal ger mynedfa i’r traeth yn Llandanwg ar ‘roedd wedi anfon hwm ymlaen at y Swyddog Morwrol oedd wedi ymateb y byddai’n trefnu i hysbysfwrdd newydd gael ei osod yna oherwydd bod y wybodaeth sydd ar hwn yn bwysig i bawb sydd yn ymweld ar traeth. Hefyd ‘roedd wedi anfon at yr Adran Priffyrdd yn gofyn iddynt dorri y coed sydd yn tyfu ar hyd ochor y ffordd o Pensarn i Argoed eto eleni ag ‘roedd wedi derbyn ateb yn datgan bod yr Arolygwr wedi bod yn monitro’r coed hyn a byddant yn eu cynnwys ar eu rhaglen torri coed pan fyddant yn yr ardal.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod heb dderbyn ddim cwynion ynglyn ar lan mor eleni ag hefyd bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal ynglyn a thoriadau yn yr Awdurdod Tan ag hefyd bydd Cyngor Gwynedd yn edrych ar dorriadau. Dywedodd bod yr ymgynghoriad ynglyn ar bleidlais sengl wedi cau a bydd cyfarfod arbennig o’r Cyngor yn cael ei gynnal ar y 24ain o fis nesa i drafod y mater hwn.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 16eg o Hydref am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg