YMDDIHEURIADAU
Cyng. David J. Roberts, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i'r Cyng. David J. Roberts a Mrs Wendon Wigglesworth, chwaer y Cyng. Robert G. Owen
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 16eg 2024 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod y Cyngor wedi gwario £17,122.99 (a oedd yn cynnwys costau banc) ers cychwyn yn flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £2,473.04 yn llai o wariant na beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn
Lloches Bws y Pentre
Lloches Bws y Pentref Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon cais am loches bws yn y pentref gan Rosy Berry ymlaen at Gyngor Gwynedd ag ‘roedd wedi derbyn ateb yn datgan ar hyn o bryd nid yw’r Cyngor yn derbyn arian gan Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod llochesi o’r newydd ond bod rhai Cynghorau Cymuned/Tref yn prynnu rhai eu hunain. Hefyd yn datgan ei bod ar ddeall fod angen i bob Cyngor yn Nghymru wneud cais flwyddyn nesaf am arian i roi llochesi newydd neu adnewyddu yr hen rai ag yn gofyn a oedd eisiau rhoid y safle ar y rhestr hwn a datganodd y Clerc ei bod wedi gofyn iddi wneud hyn. ‘Roedd e-bost arall wedi ei dderbyn gan Rosy Berry ynghyd a llun yn dangos sedd fyddai yn addas i’w gosod dros dro yn y lleoliad dan sylw ag hefyd e-bost yn datgan bod yn rhaid i’r Cyngor weithredu ar hyn am ei bod o’r farn dylai bod sedd yn y lleoliad hwn o leiaf am ei bod wedi bod yn aros hanner awr am fws a bod sefyll am amser hir yn broblem i rhai pobl oedranus. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd i archebu sedd i’w osod dros dro ger yr arwydd bws a’i symud i’r maes parcio yn Llandanwg ar ol i’r lloches bws gyrraedd.
Sedd Gyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid y mater hwn ar yr agenda er mwyn atgoffa yr Aelodau bod angen archebu sedd newydd yn maes parcio Y Maes Llandanwg a bod hyn i fod i gael ei wneud yn ystod y gaeaf y llynedd. Y mater hwn wedi cael ei drafod gyda’r mater uchod.
Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £10,783.09 yn y cyfrif rhedegol a £5,694.89 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £27.54 – rhent wi-fi y neuadd
Mr. Arwel Thomas - £470.00 - torri gwair y fynwent, torri drain ag eiddew
Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis
Y Lleng Prydeinig - £40.00 - 1 dorchen pabi coch
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cadeirydd y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Tachwedd) Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Rhagfyr)
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Rhagfyr)
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghyd a’r ddogfen ynglyn a chael Gorchymyn Gwarchod Coed ar Coed Cae Yr Odyn, Llanfair ag yn datgan bod yr Awdurdod wedi gwneud y Gorchymyn Cadw Coed hwn ar y 15ed o Dachwedd 2024 a bydd yn parhau mewn grym am 6 mis neu hyd y bydd yr Awdurdod yn cadarnhau’r Gorchymyn, pa un bynnag fydd gyntaf. Hefyd yn datgan os yw y Cyngor eisiau gwrthwynebu neu eisiau rhoid sylwadau i’r Gorchymyn hwn bod angen iddynt wneud hyn erbyn 16eg o’r mis hwn. Cytunwyd bod ddim sylwadau i’w wneud ynglyn ar mater hwn.
Cyngor Gwynedd - Adran Etholiadol
Wedi derbyn e-bost gan yr adran uchod ynglyn ag arolwg cymunedol a fydd yn rhedeg o’r 11eg o fis diwethaf tan yr 20ed o Ragfyr ag yn gofyn a fyddai y Cyngor yn dymuno cymeryd rhan yn yr arolwg. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd bod ddim sylwadau i’w wneud ynglyn ar mater hwn.
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn ag ymgynghoriad i wneud a chynlluniau parcio ag yn datgan o’r 1af o Ebrill 2025 bydd oriau gorfodi y meusydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr yn newid o 10.00 hyd at 16.30 i’r drefn newydd o 9.00 hyd at 17.00 ag hefyd fydd newid yn strwythur y ffioedd parcio a bydd rhaid talu am arhosid am o leiaf 4 awr i’w gymharu a’r 2 awr sydd yn bodoli ar hyn o bryd. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
Swyddfa Brisio
Adroddodd y Clerc bod Mrs Ann Lewis wedi cysylltu a hi yn datgan bod angen llenwi ffurflen a oedd wedi ei dderbyn gan y swyddfa uchod i ymwneud ar neuadd ag oherwydd mae y Cyngor oedd Ymddiredolwyr y safle eu bod yn llenwi y ffurflen ar ran pwyllgor y neuadd. Cytunwyd bod y Clerc yn llenwi y ffurflen a oedd wedi ei dderbyn.
UNRHYW FATER ARALL
Diolchwyd i’r Cyng. Guy Slater am drefnu gosod bin aml bwrpas yn y maes parcio yn Llandanwg. Cafwyd wybod bod Sul y Cofio wedi bod yn llwyddiant a diolch i’r Cyng. Guy Slater am osod y dorch ar ran y Cyngor. Datganwyd pryder bod y gordyfiant o Rhiwcenglau draw am y neuadd byth wedi cael ei dorri a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd unwaith eto.
Cafwyd wybod bod Sul y Cofio wedi bod yn llwyddiant a diolch i’r Cyng. Guy Slater am osod y dorch ar ran y Cyngor.
Datganwyd pryder bod y gordyfiant o Rhiwcenglau draw am y neuadd byth wedi cael ei dorri a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd unwaith eto.