Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 19/02/25

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 19/02/25

YMDDIHEURIADAU

Cllr. Eurig Hughes (Chairman),   Hywel Jones, Osian Edwards, Mair Thomas, Gwynfor Owen (Gwynedd Council).

PRESENNOL

Cllrs. Russell  Sharp (Vice Chairman), Robert G. Owen,  Guy Slater, David J. Roberts,  and Cllr. Annwen Hughes (Gwynedd Council).

In the absence of the Chairman, the Chair was taken by the Vice Chairman

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 15ed 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £19,578.79 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £3,017.25 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Lloches Bws y Pentre

Adroddwyd bod y sedd wedi cael ei gosod dros dro ger yr arwydd bws yn ganol y pentref a diolchodd y Cadeirydd I’r Cyng. Hywel Jones am wneud y gwaith hyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Ms Rosy Berry yn cyfleu diolchiadau I’r Cyngor am archebu a gosod y sedd hon mor sydyn.

Torri Gwair y llwybrau cyhoeddus

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid hysbyseb ynglyn ar uchod yn Llais Ardudwy, yr hysbysfwrdd yn y pentre ag ar wefan y Cyngor a bod y dyddiad cau ar yr 28ain o’r mis hwn a nid oedd wedi derbyn ddim ymatebion eto.

Torri Gwair y fynwent

Cytunwyd gofyn i Mr. Arwel Thomas a fyddai yn fodlon torri gwair y fynwent eto eleni.

Ceisiadau Cynllunio

Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £8,437.54 yn y cyfrif rhedegol a £5,722.01 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

BT - £27.54 – rhent wi-fi y neuadd

Mrs Annwen Hughes - £499.98 (cyflog 3 mis) + £478.70 (costau blwyddyn) = £978.68

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert G. Owen a wnaeth y Cyng. David J. Roberts gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Chwefror)

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.

GOHEBIAETH

Un Llais Cymru

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a holiadur ynglyn a phwyllgorau ardal ag yn gofyn i’r Cyngor ei gwblhau erbyn yr 28ain o’r mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd bod y Clerc yn ei gwblhau ar ran y Cyngor.

Un Llais Cymru

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod cyfarfod cyffredinol blynyddol Un Llais Cymru yn cael ei gynnal ar lein dydd Mawrth yr 11eg o Fawrth rhwng 4.00 a 6.00 o’r gloch.

Sian Gwenllian AS

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor yn datblygu Ysgol Deintyddol ym Mangor ag i anfon llythyr at Jeremy Miles AS yn datgan eu cefnogaeth. Cytunwyd i gefnogi y datblygiad hwn.

CFFI Meirionnydd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor. Cytunwyd peidio a rhoid cyfraniad iddynt ond yn hytrach rhoid cyfraniad i CFFI Ardudwy pan fydd llythyr cais wedi ei dderbyn.

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael gwybod bod y canllaw ar y llwybr zig-zag yn rhydd ag oherwydd hyn ‘roedd wedi cysylltu gyda Warden Mynediad i’r Arfordir ag ei bod wedi derbyn ateb ddechrau’r wythnos hon yn datgan y bydd wedi sortio hwn erbyn diwedd yr wythnos hon a wedi apwyntio contractor i’w wneud yn saff os bydd angen.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod twll yn y manhole ger yr orsaf dren yn Mhenrhyndeudraeth a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Chyngor Tref Penrhyndeudraeth ynglyn a hyn.

Eisiau gofyn i Mr. Martin Howie pryd mae yn bwriadu symud y lori o groesffordd Caersalem am bod dipyn o gwynion wedi eu derbyn ei bod mewn lle anaddas.

Datganwyd pryder bod prinder meddygon yn meddygfa Bermo.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 2il o Ebrill 2025 am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg