YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 4ydd 2024 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2024 ers dechrau Ebrill 2024 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwyd bod £18,`70.91 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £3,082.12 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
Lloches Bws y Pentre
Adroddodd y Clerc ei bod wedi archebu y sedd ar gyfer ei gosod dros dro ger yr arwydd bws ac adroddodd y Cyng. Robert G. Owen bod y sedd wedi cyrraedd heddiw a cytunwyd bod rhai o’r Aelodau yn gwneud trefniadau I’w gosod.
Cyllideb y Cyngor am 2025/26
The Treasurer gave each member a copy of the Council’s accounts up to the year ending 31st December 2024 so that they could see what the financial situation was like. A discussion took place and it was decided that an estimate of the following costs were going to be with the Council during the next financial year – Council’s insurance £450, Clerk’s wages £2,500, Clerk’s expenses £300, tax on Clerk’s wages £500.04, Clerk’s Accountant £228, donations £1,000, village hall £1,000, grass cutting of the cemetery £2,100, grass cutting of the footpaths £800, salt bins £300, cemetery expenses £1,800, One Voice Wales £120, Welsh Water £40, sundries £1,000, hire of hall £200, contribution to keep Llandanwg toilets open £4,000, auditors £600, bank charges £100.
Presept y Cyngor am 2025/26
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y precept ar £18,000.
Polisi Risc Ariannol y Cyngor a Cofrestr Asedau
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arnynt eiu trafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisiau hyn.
Panel Cyfrifiad Annibynol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.
Ceisiadau Cynllunio
Trosi adeilad amaethyddol segur yn anecs, ystafell cyfleustodau a gweithdy mewn cysylltiad â ffermdy cyfagos, ffurfio gardd ac ardal patio a gosod tanc septig a draenio cysylltiedig Tyddyn Rhyddid, Llanfair (NP5/66/57A)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £10,783.09 yn y cyfrif rhedegol a £5,694.89 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £27.54 – rhent wi-fi y neuadd
Cyllid a Thollad - £125.00 - treth ar gyflog y Clerc
Second Life Products Wales – £572.40 - sedd newydd
Mr. E. M. Griffiths – £650.00 - tocio coed yn y fynwent
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert G. Owen a wnaeth y Cyng. David J. Roberts gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Moies received since last meeting
Cyngor Gwynedd - £402.50 – ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Ionawr)
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2025/26 fydd £11.10 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 329 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £3,651.90 i gyrff allanol.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod bod angen clerio yr eiddew oedd yn tyfu ar cwt yr hers a cytunwyd gofyn i Mr. Arwel Thomas wneud y gwaith hwn yn y gwanwyn.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 19eg o Chwefror 2025 am 7.30 o’r gloch