YMDDIHEURIADAU
Cyng. Robert G. Owen, David J. Roberts, Guy Slater.
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Hywel Jones, Osian Edwards, Mair Thomas, , a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 19eg 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £20,622.95 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,171.09 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2025/26 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
Adroddiad Blynyddol y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi llunio trydydd adroddiad blynyddol ar ran y Cyngor ag fe ddosbarthwyd copi i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.
Torri Gwair y llwybrau cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid hysbyseb ynglyn ar uchod yn Llais Ardudwy, yr hysbysfwrdd yn y pentre ag ar wefan y Cyngor a bod y dyddiad cau ar yr 28ain o fis Chwefror a nid oedd wedi derbyn ddim ymatebion. Cytunodd y Cadeirydd ofyn I Mr. Roy Carter a fyddai ganddo ddiddordeb I dorri gwair y llwybrau cyhoeddus eto eleni
Torri Gwair y fynwent
Cytunwyd gofyn i Mr. Arwel Thomas a fyddai yn fodlon torri gwair y fynwent eto eleni.
Datganodd y Cyng. Mair Thomas ddiddordeb yn y mater uchod a ni chymerodd ran yn y drafodaeth pan gafodd y mater ei drafod
Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £7,601.73 yn y cyfrif rhedegol a £5,748.11 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £27.54 – rhent wi-fi y neuadd
Un Llais Cymru - £126.00 - tal aelodaeth am y flwyddyn
Cyllid a Thollad - £125.00 - treth ar gyflog y Clerc
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Hywel Jones a wnaeth y Cyng. Mair Thomas gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Rhanodd y Trysorydd gopïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2025 i bob Aelod yn barod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers Mawrth)
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Ebrill)
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a nodyn cyfarwyddyd Eryri ar y system gynllunio ag yn gofyn i’r Cyngor gymeryd sylw ohono pan yn trafod ceisiadau cynllunio. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod Ymgynghoriad Cyhoeddus Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ynglyn a rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr) yn cael ei gynnal a bydd rhaid anfon unrhyw sylwadau erbyn y 14eg o’r mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r llythyr hwn i bob Aelod yn barod.
CFFI Ardudwy
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor. Cytunwyd i gyfranu £150 iddynt.
Eisteddfod Ardudwy
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn diolch am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar.
Cyngor Gwynedd – Adran Etholaeth
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad cymunedol o dan adrannau 25 a 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a bod hyn yn golygu ystyried newidiadau posib i ffiniau rhai cymunedau penodol o fewn Gwynedd a wardiau pob cymuned. Mae’r adroddiad yn cynnwys cynigion drafft y Cyngor ar gyfer gwneud newidiadau, ynghyd â manylion yr adolygiad a bydd cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion drafft yn cael ei gynnal rhwng yr 28ainth o fis diwethaf ar 23ainrd o Fai y flwyddyn hon. 'Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod
Heddlu Gogledd Cymru
Wedi derbyn e-bost gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru (CHTh), ynghyd a chopi o Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru er gwybodaeth I’r Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Sian Gwenllian AS
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn diolch i’r Cyngor am gefnogi ei hymgyrch dros sefydlu Ysgol Ddeintyddol yn Mangor.
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau gwybod os Cyngor Gwynedd neu pwyllgor y neuadd oedd yn berchen ar y maes parcio gerllaw a cafwyd wybod mae Cyngor Gwynedd sydd yn ei berchen oherwydd maen’t yn ei gynnal a chadw ag hefyd wedi rhoid arwydd “ddim aros dros nos” yna.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 14eg o Fai 2025 am 7.30 o’r gloch