YMDDIHEURIADAU
Cyng. Russell Sharp (Is Gadeirydd), Robert G. Owen, Guy Slater, Osian Edwards, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones, Mair Thomas,, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 2il 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
a) Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2025/26:-
Cadeirydd
Is-Gadeirydd
Oherwydd bod gymaint o Aelodau yn absenol cytunwyd i drafod y mater uchod yn y cyfarfod nesa
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £663.84 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £182.71 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Polisi Yswiriant y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan yr Archwiliwr Mewnol bod angen i’r Cyngor adolygu eu polisi yswiriant i wneud yn siwr ei fod yn ddigonol. Fe aethpwyd drwy y polisi a cytunwyd gofyn i’r cwmni yswiriant i dynnu yr offer chwarae o’r polisi oherwydd nid oedd gan y Cyngor yr offer hwn yn eu meddiant rhagor.
Ceisiadau Cynllunio
Trosi adeilad amaethyddol segur yn anecs, ystafell cyfleustodau a gweithdy mewn cysylltiad â ffermdy cyfagos, ffurfio gardd ac ardal patio a gosod tanc septig a draenio cysylltiedig (ail gais) Tyddyn Rhyddid, Llanfair (NP5/66/57B)
Cefnogi y cais hwn
Codi estyniad unllawr i'r ochr ddwyreiniol, balconi dur i'r ochr orllewinol, dymchwel 2 simdde a gosod ffenestri to Heulwen, Llandanwg (NP5/66/293)
Cefnogi y cais hwn
Ailsefydlu ffin gardd 20 metr o hyd yn y cefn (De-ddwyrain), i uchder o 2 fetr, gan ddefnyddio cyfuniad o waliau sychion traddodiadol i 1 metr, gyda ffens bren 1 metr uwchben Sŵn-y-Wylan, Llandanwg (NP5/66/91B)
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £7,601.73 yn y cyfrif rhedegol a £5,748.11 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 – rhent wi-fi y neuadd
Mr. D. A. Thomas £710.00 - torri gwair y fynwent x 2 a chwystrellu chwyn laddwr
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Hywel Jones a wnaeth y Cyng. David John Roberts gymeradwyo'r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I'r Clerc/Trysorydd Iw' talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £9,000.00 - hanner y precept
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Adroddodd y Trysorydd fod yr Archwiliad Mewnol wedi'i gwblhau ac nad oedd unrhyw faterion arwyddocaol yn codi ar wahân i'r canlynol –
Methiant i osod cyllideb cytbwys
Methiant i adolygu cynnwys y polisi yswiriant er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol a heb fod yn ormodol
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cwblhau'r Ffurflen Flynyddol hyd at y 31ain o Fawrth 2025, aeth yr Aelodau drwy'r ffurflen hon a chytunwyd i'w chymeradwyo a chytunwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Clerc/Trysorydd lofnodi hyn ar ran y Cyngor.
GOHEBIAETH
Marie-claire Marsden
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan ei bod eisiau gofyn i’r Cyngor pam eu bod wedi rhoid y gwaith o dorri gwair y llwybrau cyhoeddus allan i dender a nid y gwaith o dorri gwair y fynwent. Hefyd yn datgan ei bod yn creud y byddai y gost o dorri gwair y fynwent yn gallu bod yn llai os byddai y gwaith yn cael i roi allan i dender yn iawn.
Rosy Berry
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai’n bosib i ymestyn y 30 m.y.a ar y ffordd o Harlech i Llanfair at waelod groesffordd Fron Deg ag hefyd wrth y groesffordd pentre Llanfair. Hefyd yn gofyn a fyddai’n bosib cael arwyddion atgoffa 20 m.y.a fel maen’t yn gadael y maes parcio yn Llandanwg a fflag coch i atgoffa pobl am waharddiadau cwn ar y traeth. Cytunwyd i anfon yr e-bost hwn ymlaen i Gyngor Gwynedd.
UNRHYW FATER ARALL
Angen gofyn a oedd yn bosib cael yr hysbysfwrdd gwybodaeth yn nol ar y wal yn y maes parcio yn Llandanwg
Eisiau anfon gair o ddiolch i Rosy Berry am drefnu dathliadau diwrnod VE yn y neuadd
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 18ed o Fehefin am 7.30 o r gloch