YMDDIHEURIADAU
Cyng. Guy Slater (Is-Gadeirydd), Osian Edwards, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). .
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Hywel Jones, Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J. Roberts, Mair Thomas, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 14eg 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £3,500.75 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £4,547.88 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Torri Gwair Llwybrau Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn cwynion bod angen torri gwair y llwybr cyhoeddus o Llwyn Hwlcyn draw am Cae Cethin ag hefyd cwyn bod angen torri y llwybr cyhoeddus o Hen Gaerffynnon lawr am y ffordd fawr. Adroddodd y Clerc ymhellach bod y Cyng. David John Roberts wedi cael rhywun i dorri gwair y llwybrau sef Mr. Christian Bowater o Ddyffryn Ardudwy ag ei fod wedi torri y llwybr cyhoeddus o Llwyn Hwlcyn draw am Cae Cethin yn barod. Cytunwyd bod y Cyng. David John Roberts yn rhoid map a rhestr o’r llwybrau iddo.
Bwrdd Gwybodaeth yn Llandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Adran Morwrol o Gyngor Gwynedd ynglyn a gosod hysbysfwrdd aliminiwm ag yn datgan byddai yn well gan Gyngor Gwynedd weld hysbysfwrdd pren yn cael ei osod yna, ond yn anffodus nid oes ganddynt un mewn stoc ar hyn o bryd ag hefyd yn gofyn i’r Cyngor Cymuned a fyddant yn fodlon cyfranu at gost yr hysbysfwrdd hwn. Cytunwyd cyfranu £500 i Gyngor Gwynedd tuag at archebu hysbysfwrdd wedi ei wneud allan o ddeunydd plastic yna.
Ceisiadau Cynllunio
Rhyddhau Amodau Rhif 3 (llechi), 8 (cynllun cadwraeth), & 9 (arolwg ffotograffic) ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio NP5/66/57B dyddiedig 15/05/2025 Tyddyn Rhyddid, Llanbedr (NP5/66/57C)
Cefnogi y cais hwn
Datganodd y Cyng. Russell Sharp ddiddordeb yn y cais cynllunio uchod a ni gymerodd rhan yn y drafodaeth.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £16,198.02 yn y cyfrif rhedegol a £5,772.61 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £27.54 – rhent wi-fi y neuadd
Dwr Cymru - £29.77 - tap y fynwent
Cyllid a Thollad - £124.80 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. M. J. Kerr - £480 .00 - agor bedd y diweddar Mrs Hefina Griffiths
Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Mr. David Greenwood (llwch)
Mr. D. A. Thomas £320.00 - torri gwair y fynwent
Pwyllgor Neuadd - £180.00 - llogi ystafell bwyllgor
Mr. Christian Bowater - £280.00 - torri gwair y llwybrau
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Hywel Jones a wnaeth y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cael e-bost gan y banc yn datgan eu bod yn dod ar taliad misol o £5 I ben ar y 1af o’r mis hwn.
Gofynnodd y Trysorydd am ganiatad y Cyngor I wneud taliadau sydd I weld yn rhai brys yn ystod mis Awst oherwydd nid oes cyfarfod swyddogol o’r Cyngor tan mis Medi. Cytunwyd I hyn gael ei wneud
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 - rhent cwt yr hers (Gorffennaf)
Pritchard a Griffiths - £1,960.50 – claddu y diweddar Mr. Ifor Gwynedd Williams
GOHEBIAETH
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
UNRHYW FATER ARALL
Adroddodd y Cyng. Mair Thomas bod cyfarfod o bwyllgor y neuadd wedi cael ei gynnal ar yr 2il o’r mis hwn a bod y sefyllfa ariannol yn dal yn iach. Bydd dathliadau diwrnod VJ yn cael ei gynnal yna ar y 15ed o Awst ag hefyd cafwyd wybod bydd y dosbarth celf yn cynnal eu arddangosfa blynyddol yn Neuadd Goffa Harlech yn mis Awst. Bydd cyfarfod nesa o bwyllgor y neuadd yn cael ei gynnal ar y 1af o Hydref.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Annwen Hughes bod contractwyr yn mynd i glerio y tywod o geg y fynedfa i draeth Llandanwg dydd Gwener.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 17eg o Fedi 2025 am 7.30 o r gloch