YMDDIHEURIADAU
Cyng. Robert G. Owen, Hywel Jones, Eurig Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Gadeirydd), Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod HYdref 15ed 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod y Cyngor wedi gwario £12,752.49 (a oedd yn cynnwys costau banc) ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £962.78 yn llai o wariant na beth oedd wedi ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn ariannol hon
Wal y Fynwent
Adroddodd y Clerc bod y gwaith o ail godi y wal uchod wedi cael ei gwblhau ag hefyd ei bod weidi derbyn e-bost gan berchnogion Tyn LLan yn gofyn sut oeddynt i fod i wneud cais i'r Cyngor ynglyn a chael iawndal am y deunydd oedd wedi ei ddifridi gan y wal yn chwalu ag hefyd yn datgan eu bod yn edrych ar o gwmpas £1,000 o gostau. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi edrych i mewn i pwy sydd yn gyfrifol am dalu y costau i ail godi y wal dan sylw a bod Deddf Wal Derfyn 1996 yn datgan bod y ddau barti yn gyfrifol am y costau
Ceisiadau Cynllunio
Newid defnydd o Ddosbarth Defnyd C3 (anedd ) i ddefnydd dwbl C3 (anedd) a C6 (uned gosod gwyliau tymor byr) Rose Cottage, 2 Tanrhiw, Llanfair (NP5/66/L20C)
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £21,371.89 yn y cyfrif rhedegol a £5,795.49 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT £29.84 Wi-Fi y neuadd
Mr. Christian Bowater - £154.00 - torri gwair y llwybrau
Y Lleng Prydeinig - £40.00 - dorchen pabi coch a rhodd
Dwr Cymru - £21.28 - tap y fynwent
Mr. |Meirion Evans - £2,400.00 ail adeiladu wal y fynwent
Mr. M. J. Kerr £100.00 - agpr bedd y diweddar Mrs Betty Joan Williams (llwch)
Mr. D. A. Thomas - £470.00 - torri gwair a brigau yn y fynwwent gyhoeddus a drain yn Llandanwg
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Guy Slater a wnaeth y Cadeirydd y Cyng. Osian Edwards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Tachwedd)
James Memorials £254.00 - claddu y diweddar Betty Joan Williams (llwch)
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd gwaith o atgyweirio step uchaf camfa a gosod postyn cyfeirbwyntio yn cael ei wneud ar llwybr cyhoeddus rhif 13, Rhyd yr Eirinyn ystod y mis. Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derby e-bost gan Aelod Cabinet yr Adran uchod yn gofyn i'r Cyngor a fyddai yn bosib iddynt gymeryd rhan yn yr ymgynghoiriad ynglyn ar arolwg ar Strategaeth Wastraff Cyngor Gwynedd drwy lenwi yr holiadur erbyn y 30ain o'r mis hwn. 'Roedd y Clerc wedi anfon ymlaen i bob Aelod yn barod.
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn ar diweddariad ar y broses adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri ag yn gofyn a fyddai odd i holiadur anffurfiol gael ei gwblhau gan trigolion y Parc er mwyn iddynt cael clywed barn y bobl lleol ar faterion polisi cynllunio allweddol yn yr ardal. \Mae dyddiad cau ar gyfer cwblhau yr holiadur ar y 12ed o Ragfyr
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod yn datgan bod y oryder ynglyn ar ddamwain a ddigwyddodd ar ffordd Sarn Hir wedi ei gyfeirio at yr Uned Drafnidiaeth yn Gaernarfon ag y byddant yn cysylltu yn uniongyrchol gyda'r Cyngor. Adroddodd y Clerc ei bod heb dderbyn ymateb ganddynt
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr ynghyd ag atodiadau gan yr Adran uchod yngkyn ag Ymgynghoriad wrth i'r Cyngor ystyried gwneud gprchymyn parcio cwmpasog newydd a gwneud newidiadau i strwythur ffioedd meusydd parcio talu ag arddangos arhosiad hir (band 2 yn unig) a gwneud i ffwrdd hefo talu £`1.55 am barcio am 2 awr a bod yn rhaid talu am o leiaf 4 awr a hynny am £3.85. Ar ol trafodaeth cytunwyd yn unfrydol i wrthwynebu y newidiadau hyn a gofyn iddynt ei adael fel ag y mae oherwydd fyddai y taliadau newydd yn effeithio ar fusnes y caffi ag amryw o drigolion lleol sydd yn defnyddio y maes parcio yn ddyddiol er mwyn mynd am dro ar y traeth.
Un Llais Cymru
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod cyfarfod cyffredinol blynyddol Un LLais Cymru yn cael ei gynnal yn rhithiol ar yr 21ain o Ionawr 2026 a bod yna wahoddiad i un Cynghoirydd yn unig i fynychu y cyfarfod. Maen't hefyd yn gofy am enw y sawl fydd yn mynychu gyda enw eilydd erbyn yr 18ed o Ragfyr. Cytunodd y Cyng. David John Roberts fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngir
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau diolch i Gyngor Gwynedd am dorri yr eiddew o groesffordd Caersalem lawr am y neuadd
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnak cyfarfod nesa y Cyngor ar y 7ed o Ionawr 2026 am 7.30 o'r gloch