Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 07/01/26

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 07/01/26

YMDDIHEURIADAU

Cyng.. Guy Slater (Is-Gadeirydd), Mair Thomas, Hywel Jones, Osian Edwards, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J. Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 19eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Wal y Fynwent
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod darn arall o wal tu ol i gwt yr hers wedi disgyn ag ‘roedd pawb oedd yn bresennol wedi bod yn ymweld a hyn. Cytunwyd oherwydd nid oedd hwn yn fwlch mawr a ddim yn ymharu ar y fynwent ei adael ar hyn o bryd ag i’r Clerc gysylltu gyda Un Llais Cymru i ofyn pwy sydd yn gyfrifol am y costau i ail adeiladu wal derfyn.

Panel Cyfrifiad Annibynol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.

Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2025 ers dechrau Ebrill 2025 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwyd bod £16,038.65 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £2,679.39 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.

Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn.

Cyllideb y Cyngor am 2026/27
Dosbarthwyd copiau o’r uchod I bob Aelod oedd yn bresennol yn dangos cyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2025 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £2,500, costau y Clerc £300, treth ar gyflog y Clerc £500.04, Cyfrifydd y Clerc £228, cyfraniadau £1,000, pwyllgor neuadd Goffa £1,000, Wi-Fi y Neuadd £358.08, costau fynwent £2,000, torri gwair y mynwentydd £2,100, torri gwair y llwybrau £900, Dwr Cymru £55, biniau halen £300, cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored £5,440, Un Llais Cymru £120, llogi ystafell bwyllgor £200, archwilwyr £600, amrywiol £1,000, cynnal a chadw gwahanol eitemau £1,200, costau banc £10. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o £20,611.12

f) Presept y Cyngor am y flwyddyn 2026/27

Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi y precept o £18,000 i £18,800.

Ceisiadau Cynllunio
Codi balconi cefn llawr cyntaf a gosod inswleiddio wal allanol Pant Goleu House, Llanbedr (NP5/66/287A)
Cefnogi y cais hwn.

Codi garej ar wahân gyda to brîg Rebena, Llandanwg (NP5/66/253B
Ddim sylwadau ar y cais hwn oherwydd nid oedd yr Aelodau yn gallu gweld y cais ar wefan y Parc.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £18,440.53 yn y cyfrif rhedegol a £5,816.60 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 - wi-fi y neuadd
Cyllid a Thollad - £125.00 - treth ar gyflog y Clerc
Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert G. Owen a wnaeth y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Rhagfyr)
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Ionawr)
Cyllid a Thollad - £414.91 - ad-daliad TAW

GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod ynglyn a’r Cynllun Partneriaeth Toiledau Cyhoeddus ag yn hysbysu y Cyngor bydd y cyfraniad blynyddol gan y Cynghorau Cymuned yn codi yn ystod blwyddyn ariannol 2026/27 o £4,000 y flwyddyn i £5,440 y flwyddyn neu o £2,000 am 6 mis i £2,720 am 6 mis. Nid oedd gan neb wrthwynebiad i hyn oherwydd nid oedd y cyfraniad wedi cael ei godi ers cychwyn y bartneriaeth.

Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2026/27 fydd £11.60 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 441 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £5,115.60 i gyrff allanol.

UNRHYW FATER ARALL
Eisiau anfon at yr Adran Priffyrdd i ofyn pam bod yna cones wedi ei lleoli yn ganol maes parcio Llandanwg ers peth amser.

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 18ed o Chwefror 2026 am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg