Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned LLanfair - 03/06/26

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned LLanfair - 03/06/26

YMDDIHEURIADAU
Cyng. Osian Edwards, Eurig Hughes

PRESENNOL
PRESENNOL Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Guy Slater (Is-Gadeirydd), Hywel Jones, Mair Thomas, Robert G. Owen, David J. Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Roberts, Cllr. Annwen Hughes and Gwynfor Owen (Gwynedd Council).

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 22ain 2026 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 26/27
Cadeirydd:- Cyng. Russell Sharp
Is-Gadeirydd:- Cyng. Guy Slater

Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £1,336.04 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £7,037.65 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Adroddwyd bod £1,336.04 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y

Cynllun Grant Gwynedd Ni
Adroddodd y Clerc ei bod bron a gorffen cwblhau ffurflenni y grant uchod ond angen ag ei bo
d wedi cynnwys 5 sedd cyhoeddus yn y cais ag ei bod angen dyfynbris am osod plinth dan y seddi.
Cytunwyd cynnwys 7 sedd cyhoeddus yn y cais a gosod dwy lle bydd pwyllgor y neuadd yn ei ddewis.

Ceisiadau Cynllunio
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith trwsio sylweddol, gosod bocs cynnes, creu mynedfa newydd
i ystlumod a man addasiadau cysylltiedig - Garth, Llanbedr (NP5/66/LB273B)
Cefnogi y cais hwn

Codi adeliad cwrtil newydd i'w ddefnyddio tros dro fel clwydfan ystlumod Garth, Llanbedr (NP5/66/273A)
Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £29,419.52 yn y cyfrif rhedegol a £5,836.90 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
BT - £32.64 - Wi-fi y neuadd
Mr. Christian Bowater - £161.00 - torri gwair llwybrau cyhoeddus
Mr. Arwel Thomas - £400.00 - torri gwair y fynwent, torri drain ag eiddew

Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis
Clear Insurance Ltd - £741.74 - Yswiriant y Cyngor am y flwyddyn

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert G. Owen a wnaeth y Cyng. Russell Sharp gymeradwyo’r taliadau
ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod

Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £9,400.00 - hanner y presept
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Cyngor Gwynedd - £1,426.64 – ad-daliad incwm maes parcio
Pritchard a Griffiths - claddu y diweddar Mrs Eleri John
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)

Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod – Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru: • Risg o golledion neu daliadau anawdurdodedig wrth brosesu taliadau ar lein h.y. dim awdurdodiad deuol ar-lein ar gyfer trafodion banc.

Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cwblhau'r Ffurflen Flynyddol hyd at y 31ain o Fawrth 2026, aeth yr Aelodau drwy'r ffurflen hon a chytunwyd i'w chymeradwyo a chytunwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Clerc/Trysorydd lofnodi hyn ar ran y Cyngor.

GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Economi
Wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod ynglyn ag hysbysiad ffurfiol o ymgynghoriad gan Cyngor Gwynedd ar
GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Economi Wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod ynglyn ag hysbysiad ffurfiol o ymgynghoriad gan Cyngor Gwynedd ar Gynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd a mae manylion pellach am yr ymgynghoriad ar gael yma: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Dweud-eich-Dweud/Ymgynghoriadau-Byw/Ymgynghoriad-Ardoll-Ymwelwyr-Gwynedd.aspx. ‘ Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen I bob Aelod yn barod
https://www.gwynedd.llyw.cymru/en/Residents/Have-your-say/Live-Consultations/Gwynedd-Visitor-Levy
Consultation.aspx. The Clerk had already forwarded this e-mail to every Member.

MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn bod yr eiddew angen ei dorri ar hyd ochor y ffordd o’r neuadd tuag at mynedfa ystad dai Derlwyn. ‘Roedd wedi cysylltu a Chyngor Gwynedd ynglyn ar bin baw cwn wedi gor-lenwi yn y maes parcio yn Llandanwg ag hefyd bod yr un newydd ger y mynedfa i’r maes parcio byth wedi cael ei gosod yn lle yr un oedd wedi malu. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod eisiau barn Aelodau y Cyngor Cymuned ynglyn a gosod llun o fobl yn cerdded ar hyd ochor y ffordd o Frondeg draw at Hafod Wen. Ar ol trafodaeth cytunodd yr Aelodau bod hyn ddim yn syniad da oherwydd fyddai hyn yn annog rhai i gerdded ar hyd y ffordd hon sydd ddim yn addas. ‘Roedd wedi cael cais bod angen 4 bin halen wedi eu gosod mewn gwahanol leoliadau o groesffordd rhiw yr ysgol i fyny at Hen Gaeau a datganodd yr Aelodau byddai y Cyngor Cymuned yn fodlon archebu un bin halen ag i Gyngor Gwynedd benderfynnu lle i’w gosod. Datganodd ei fod wedi cael cwyn bod rhai yn parcio yn rhy uchel i fyny ger groesffordd Caersalem. Yn gofyn i’r Cyngor Cymuned anfon neges unwaith yn rhagor i Gyngor Gwynedd yn gwrthwynebu faint mae rhai yn gorfod ei dalu am barcio yn maes parcio Llandanwg a gofyn iddynt ddod ar dewis o allu talu am 1 awr yn nol.

UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder bod gymaint o faw ci ar y maes yn LLandanwg
Datganwyd pryder bod plant yn gorfod cerdded ar y ffordd wrth adael safle CMC Pensarn i fynd am Bryn Moel oherwydd y gor-dyfiant ar ochor y ffordd
Angen torri yr eiddew ar hyd ochor y ffordd o Bryn Aur draw am Wern y Wylan

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 15ed o Orfffennaf am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg