Cyng. Hywel Jones
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 10ed 2024 fel rhai cywir.
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 24/25:-
Cadeirydd:- Cyng. Eurig Hughes
Is-Gadeirydd:- Cyng. Russell Sharp
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £1,927.80 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,966.21 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Wi-Fi yn y Neuadd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi bod mewn cysylltiad a Mr. Rob Lewis ag ei bod wedi cael gwybod ei fod wedi bod mewn cysylltiad hefo BT a gobeithio bydd y wi-fi yn ei le yn fuan. ‘Roedd y Clerc wedi cael gwybod gan Mr. Lewis ei fod yn y broses o lenwi ffurfleni gyda BT ar ran y Cyngor ag eu bod angen gwybod ers pryd oedd y Cyngor wedi bod gyda’r banc presennol. Cytunwyd iddo rhoid y flwyddyn 1974 i lawr.
HAL
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn mantolen ariannol am fis Chwefro, Mawrth ag Ebrill ag adroddiad gan yr uchod ag ei bod wedi ei anfon ymlaen i bob Aelod. Hefyd cafwyd wybod ganddynt bod yna wahoddiad i gyfarfod o’r Bwrdd gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal ar y 6ed o’r mis hwn am 7.00 o’r gloch. Cafwyd wybod bod neb y gallu mynychu y cyfarfod nos yfory.
Wefan y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Owen Brown ei fod bellach yn nesáu at gamau olaf y datblygiad ar gyfer gwefan newydd y Cyngor ag ‘roedd wedi ychwanegu datganiadau preifatrwydd, caniatâd cwcis ac ati, ac wedi sicrhau bod y safle cyfan yn hygyrch i lefel 2 AA (sef y gov.uk safonol cyflawni). Bydd y wefan yn dod yn fyw yn ystod y dyddiad nesa.
Gosod 8 panel haul ar y ddaear (370w) Uwchglan, Llanfair (NP5/66/269A)
Cefnogi y cais hwn
Datganodd y Cyng. David John Roberts ddiddordeb yn y cais cynllunio uchod a nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £14,421.14 yn y cyfrif rhedegol a £5,638.11 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mr. M .J. Kerr - £460.00 – agor bedd y diweddar Mrs Rose Esther Lane
Clear Insurance Management Ltd - £561.31 – insiwrans y Cyngor
Wolfe and Brown £1,050.00 - creu gwefan y Cyngor
Mrs Annwen Hughes - £499.98 - cyflog 3 mis
480………………………………………….Chairman
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,428.00 (cyfraniad misol Mai a Mehefin)
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cadeirydd y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Cyngor Gwynedd - £9,000.00 – hanner y precept
Cyngor Gwynedd - £1,032.15 – ad-daliad incwm maes parcio
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)
Pritchard a Griffiths - £945.00 - claddu y diweddar Mrs Rose Esther Lane
Adroddodd y Trysorydd fod yr Archwiliad Mewnol wedi'i gwblhau ac nad oedd unrhyw faterion arwyddocaol yn codi ar wahân i'r canlynol –
Methiant i adolygu cyfraddau treuliau staff.
Diffyg gwahanu dyletswyddau wrth greu a phrosesu taliadau ar lein.
Y praesept blynyddol ddim yn deillio o broses gyllidebu digonol oherwydd y methiant i ystyried yr incwm a ragwelir.
Diffyg tryloywder yn deillio o fethiant i baratoi gwefan addas yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cwblhau'r Ffurflen Flynyddol hyd at 31 Mawrth 2024, aeth yr Aelodau drwy'r ffurflen hon a chytunwyd i'w chymeradwyo a chytunwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Clerc/Trysorydd lofnodi hyn ar ran y Cyngor.
GOHEBIAETH
SARPA
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn i’r Cyngor gysylltu hefo Trafnidiaeth Cymru ynglyn ar toriadau arfaethedig i wasanaethau ar lein y Cambrian maen’t yn ei fwriadau ei wneud trwy dorri allan gwasanaeth 4 tren rhwng Rhagfyr a Mawrth. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
Ambiwlans Awyr Cymru
Wedi derbyn llythyr gan Brif Weithredwr yr uchod ynglyn ag adolygiad o’r gwasanaeth EMRTS a gynhaliwyd yn annibynnol ddod i ben. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder bod nifer fawr o gwn yn cael rhedeg yn rhydd ar yr ochor anghywir ar draeth Llandanwg a cytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn.
Eisiau cysylltu ar Adran Priffyrdd ynglyn a gor-dyfiant ger Rhiwcenglau.
Cafwyd wybod bod Mr. Roy Carter yn fodlon torri gwair y llwybrau cyhoeddus eto eleni.
Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i Mr. Brian John am dorri gwair y llwybr cyhoeddus sydd yn mynd i lawr o Benrallt i dop chwarael Cae Cethin.
Eisiau cysylltu ar Adran Priffyrdd i dynnu eu sylw bod gwyneb y ffordd o amgylch draen ger ystad Pant yr Onnen y torri i fyny.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd ei bod wedi sylwi bod difrod wedi cael ei wneud i wal y maes parcio ag y byddai yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn ag hefyd yn cysylltu gyda Tim Tacluso Ardal Ni yn gofyn iddynt chwynu y maes parcio unwaith yn rhagor.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi derbyn pryder bod coeden yn beryg yn y cae ger groesffordd Caersalem ag hefyd bod wal yn disgyn yna hefyd. Datganodd bod gwaith dros dro yn mynd i gael ei gario allan ar y ffordd o Dalsarnau ymlaen a bydd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar ol tymor yr ymwelwyr.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 17eg o Orffennaf am 7.30 o’r gloch
SIGNED ……………………………………Chairman