YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 6ed 2023 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2023 ers dechrau Ebrill 2023 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwyd bod £17,201.98 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,982.40 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
Wi-Fi yn y Neuadd
Adroddodd y Clerc bod ddim mwy i adrodd ynglyn ar uchod ddim ond bod Mr. Rob Lewis yn gweithio i gael sustem yn ei le yn y neuadd a gobeithio fydd wedi cael ei gwblhau yn y mis nesa
Adolygu Cyflog y Clerc
‘Roedd y Cyngor yn eu cyfarfod mis Ebrill y llynedd wedi cytuno i adolygu cyflog y Clerc pan yn trafod y precept am y flwyddyn ariannol hon ag felly cytunwyd codi cyflog y Clerc i £2,500 y flwyddyn.
Nid oedd y Clerc yn bresennol pan drafodwyd y mater uchod
HAL
Adroddwyd bod cyfarfod rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 18ed o’r mis hwn. ‘Roedd trafodaeth wedi bod ynglyn a cario ymlaen i dalu cyfraniad ariannol i HAL ar ol diwedd mis Mawrth eleni a bod datganiad wedi cael ei greu a bod y Cynghorwyr wedi cytuno bod Clerc bob Cyngor yn anfon hon allan i bob Cynghorydd a gofyn iddynt bleidleiso erbyn nos Iau yr 21ain gyda’i penderfyniad, ‘roedd yr e-bost a anfonwyd at bob Cynghorydd gyda chopi o’r datganid yn gyfrinachol a datganwyd bod Aelodau y Cynghorau eraill yn datgan siom bod y wybodaeth hon wedi cael ei datgelu i aelod o Fwrdd HAL ag oherwydd hyn eu bod o’r farn bod y Cynghorydd hwn wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copiau o gyfrifon HAL i fyny at ddiwedd mis Tachwedd y llynedd i bob Aelod ac hefyd adroddodd bod cyfarfod arall yn mynd i gael ei gynnal rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 14eg o Chwefror ag hefyd bod cyfarfod rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL yn cael ei gynnal ar y 18ed o’r mis hwn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i gario ymlaen i gyfranu yn ariannol i HAL am y flwyddyn ariannol 2024/25 a cytunwyd talu yr un swm ar flwyddyn ariannol 2023/24 a nid y swm newydd oherwydd ‘roedd yr Aelodau ddim yn hapus bod ddim trafodaeth weid cael ei gynnal rhwng HAL ar Cyngor i godi y cyfraniad 4.7%.
Cyllideb y Cyngor am 2024/25
Dosbarthwyd copiau o’r uchod I bob Aelod oedd yn bresennol yn dangos cyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2023 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £450, cyflog y Clerc £2,500, costau y Clerc £300, treth ar gyflog y Clerc £500.04, Cyfrifydd y Clerc £216,
cyfraniadau £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £8,564.38, pwyllgor neuadd Goffa £1,000, costau fynwent £1,800, torri gwair y mynwentydd £2,100, torri gwair y llwybrau £1,000, Dwr Cymru £40, biniau halen £300, cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored £4,000, Un Llais Cymru £120, llogi ystafell bwyllgor £200, archwilwyr £600, amrywiol £1,000, cynnal a chadw gwahanol eitemau £1,200, costau banc £100.
Precept y Cyngor am 2024/25
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi y precept o £17,000 i £18,000.
Panel Cyfrifiad Annibynol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.
Ceisiadau Cynllunio
Codi adeilad llety gwesteion newydd, gydag addasiadau ac adnewyddu adeiladau a gedwir i greu neuadd gymunedol, cyfleusterau bwyta a chegin newydd a mannau a chyfleusterau ategol eraill - Cei Pensarn, Llanbedr (NP5/66/8J)
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £9,841.93 yn y cyfrif rhedegol, a £5,610.97 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad - £95.00 - treth ar gyflog y Clerc
Dwr Cymru - £7.29 - tap y fynwent
Mrs W. Wigglesworth - £37.00 - sticer bin brown y fynwent
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £714.00 – cynnig precept (taliad misol)
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Eurig HUghes a wnaeth y Cyng. Robert G. Owen gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Ionawr)
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2023/24 fydd £10.81 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 328 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £3,545.68 i gyrff allanol.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor byddant yn newid colofnau golau stryd ar cyffordd A496 Llandanwg a Sarn Hir yn ystod y mis hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod er gwybodeth i’r Cyngor bod angen newid gwybodaeth manylion banc pwyllgor y neuadd goffa i gyd fynd a beth sydd ar y cofrestr elusennau.
Adroddwyd bod wal wedi disgyn ger Groes Las
Datganwyd bod carreg fedd angen sylw yn y fynwent a cytunwyd mynd i gael golwg arni yn fuan.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 21ain o Chwefror 2024 am 7.30 o’r gloch