YMDDIHEURIADAU
Cyng. Mair Thomas, Hywel Jones, David J. Roberts, Osian Edwards.
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Guy Slater (Is-Gadeirydd), Eurig Hughes, Robert G. Owen, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 22ain 2026 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £3,264.04 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,509.65 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Cynllun Grant Gwynedd Ni
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod y Cyngor wedi bod yn llwyddianus gyda’r cais grant i gario allan y gwaith oedd wedi ei restru yn y cais. Cytunwyd bod y Clerc ar Cadeirydd yn llofnodi y llythyr derbyn a’i anfon yn nol.
Pwyllgor Neuadd Goffa - 1.7.26
Adroddodd y Clerc bod y Cyng. Mair Thomas wedi anfon yr adroddiad canlynol iddi yn dilyn y pwyllgor uchod ag hefyd ‘roedd y Cyng. Robert G. Owen yn bresennol yn y pwyllgor.
Mae y sefyllfa ariannol yn foddhaol, mae y pwyllgor wedi c ael pris o £430 plus TAW am goncretio tua allan i ddrws y neuadd. Mae y pwyllgor wedi cytuno I osod y ddwy sedd newydd fydd ar gael I’r neuadd o dan cynllun grant “Cais Grant Gwynedd Ni” drwy’r Cyngor Cymuned bob ochor I fynedfa y neuadd. Bydd y cefnau yn cael eu paentio yn ystod mis Awst. ‘Roedd y pwyllgor wedi cael gwybod gan un o’I Aelodau bod y Llanfair Art yn cynnal arddangosfa o'u gwaith yn Neuadd Goffa Harlech wythnos olaf Gorffennaf a chyntaf o Awst a bod gwahoddiad I’r Cynghorwyr fynd I’r noson agoriadol ar y 24ain o Orffennaf. Bydd y pwyllgor nesaf ar Medi 23ain.
Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £27,531.52 yn y cyfrif rhedegol a £5,855.60 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £32.64 - wi-fi y neuadd
Cyllid a Thollad - £124.80 - treth ar gyflog y Clerc
Dwr Cymru - £24.46 - tap y fynwent
Mr. Arwel Thomas - £650.00 – torri gwair y fynwent x 2
Pwyllgor Neuadd - £180.00 - llogi ystafell bwyllgor
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Guy Slater a wnaeth y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 - rhent cwt yr hers (Gorffennaf)
Anfonebau wedi eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Defib Store Ltd - £60.00 – pad newydd I’r defib ger y Neuadd Goffa
GOHEBIAETH
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn cais am Adborth: Proffiliau Aneddiadau Drafft gan tim Polisi Cynllunio yr uchod ag yn gofyn am gymorth y Cyngor i adolygu proffiliau anheddiadau sydd wedi’u paratoi ar gyfer anheddiadau o fewn ein Cyngor Cymuned. Hefyd yn datgan bod y proffiliau anheddiadau’n dod â gwybodaeth allweddol at ei gilydd am bob anheddiad. Maent yn un o’r camau cyntaf o gasglu tystiolaeth a fydd yn helpu i lywio asesiadau anheddiadau yn y dyfodol a’r strategaeth ofodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.
Yn datgan byddai y Cyngor Cymuned yn gweld y proffiliau anheddiadau sy’n berthnasol I’r ardal hon a mae rhain ar ffurf drafft cyntaf, a byddant yn ddiolchgar iawn os fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu cyfrannu atynt er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a lleisiau rhanddeiliaid lleol yn cael eu cynnwys.
Yr hyn mae y tim Polisi Cynllunio yn gofyn I’r Cyngor Cymuned ei wneud yw y canlynol:-
Ar gyfer pob anheddiad sydd wedi’i gynnwys, gofynnwn i chi gwblhau’r tri cham canlynol:
Yr hyn mae y tim Polisi Cynllunio yn gofyn I’r Cyngor Cymuned ei wneud yw y canlynol:-
Ar gyfer pob anheddiad sydd wedi’i gynnwys, gofynnwn i chi gwblhau’r tri cham canlynol:
1 Adolygu’r proffil anheddiad
Gwiriwch y proffil a nodwch unrhyw wybodaeth sy’n anghyflawn, yn anghywir, neu y gellid ei gwella.
Gellir cofnodi’r sylwadau hyn ar dudalen gyntaf yr holiadur.
2. Cwblhau’r holiadur
Cwblhewch un holiadur ar gyfer pob anheddiad. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn eich barn ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT) yr anheddiad. Gellir hefyd ddefnyddio’r holiadur i gyflwyno cywiriadau neu wybodaeth ychwanegol.
3. Cwblhau’r ffurflen gwasanaethau a chy
Rhestrwch yr holl wasanaethau a chyfleusterau lleol y dylid eu cynnwys yn y proffil anheddiad. Cofnodwch gymaint o fanylion â phosibl.
'Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i'r Aelodau yn barod
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a Gwasanaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio – Gwybodaeth i Gynghorau Cymuned a Thref ag yn rhoid i trosolwg byr o Wasanaeth Cydymffurfiaeth yr Awdurdod ac i egluro sut mae materion cydymffurfiaeth yn cael eu trin. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen I bob Aelod yn barod.
Mr. Ian Carr
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn i’r Cyngor a fyddai ganddynt unrhyw wrthwynebiad iddo osod plac hanesyddol wrth Tyn y Buarth sef cartref enedigol Sian Owen sydd yn llun enwog Salem. Cytunwyd ymated datgan bod y Cyngor yn gefnogol iddo osod plac yn y lleoliad hyn ag ei bod i fyny iddo fo sut blac i’w osod am ei fod yn ei ariannu ei hun ag hefyd os oedd eisiau cymorth hefo cyfieithu y geiriad i’r plac bod croeso iddo gysylltu gyda’r Cyngor.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn ynglyn a cerbyd yn parcio ger groesffordd Caersalem a oedd yn creu problemau i yrrwyr oedd eisiau dod i’r ffordd. ‘Roedd wedi cysylltu ar Adran Priffyrdd a wedi cael gwybod mae mater i’r Heddlu oedd hyn. ‘Roedd wedi cael gair hefo PCSO Elliw Williams oedd yn datgan ei bod wedi cael gair hefo y swyddogion traffig ynglyn a’r ceir yma yn parcio. Mae o wedi deud wrthym eu bod yn achosi “obstruction” o fath I’r traffig sydd yn gorffod troi yn y groesffordd. Mae wedi awgrymu I fi gael gair hefo y perchnogion ac I ofyn iddynt symud y ceir. Mi ydw I wedi gwneud hyn. Hefyd, yn gofyn oes modd cael rhyw fath o farciau I ddweud I beidio parcio, neu arwyddion. Ar ol trafodaeth cytunwyd ei bod yn cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd.
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau cysylltu gyda Mr. Christian Bowater i ofyn iddo dorri gwair y llwybr cyhoeddus sydd yn mynd o Cae Cethin i Argoed, o Argoed i Penrallt ag o ystad Pant yr Onnen at y cae
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 16eg o Fedi 2026 am 7.30 o’r gloch