Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 15/10/25

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 15/10/25

YMDDIHEURIADAU
Cyng. Guy Slater (Is Gadeirydd), Hywel Jones, Osian Edwards.

PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Mair Thomas,, Eurig Hughes, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Estynwyd cydymdeimlad y Cyngor ar Clerc yn dilyn marwolaeth ei Modryb

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 17eg 2025 fel rhai cywir

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £8,338.45 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £3,532.27 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Bwrdd Gwybodaeth yn Llandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod y bwrdd gwybodaeth uchod bellach wedi cael ei osod ag ei bod wedi cael goriad ganddynt fel bod y Cyngor Cymuned yn gallu defnyddio un ochor ohono.
Wal y Fynwent
Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon at y pedwar a oedd wedi cael eu henwi yn gofyn am bris i ail adeiladu yr uchod ag oedd dau wedi ymateb yn datgan diddordeb yn y gwaith ag ‘roedd y Clerc wedi derbyn pris gan Mr. Meirion Evans. Cytunwyd i dderbyn y pris hwn.
Sul y Cofio
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid y mater hwn ar yr agenda er mwyn atgoffa Aelodau bod Gwasanaeth Sul y Cofto yn cael ei gynnal ar y 9ed o Dachwedd eleni. Cytunodd y Cadeirydd osod y torch pabi coch ar ran y Cyngor a cytunwyd iddo ofyn i'r ls-Gadeirydd os na fyddai yn gallu bod yn bresennol.

Ceisiadau Cynllunio
Newid defnydd tir o amaethyddol i lecyn parcio ychwanegol yn gysylltiedig a’r Parc Fferm Plant, Cae Cethin, Llanfair (NP5/66/15H)
Cefnogi y cais hwn
Codi lloches i ymwelwyr Chwarel Hen, Llanfair (NPS/66/294)
Cefnogi y cais hwn
Datganodd y Cyng. Robert G. Owen ddiddordeb yn y ceisiadau cynllunio uchod a nid oedd yn bresennol pan oeddynt yn cael eu trafod.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £25,626.32 yn y cyfrif rhedegol a £5,795.49 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad - £125.00 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. Christian Bowater - £280.00 - torri gwair y llwybrau cyhoeddus ag hefyd torri a clerio yr eiddew ger cwt yr hers.
Cyngor Gwynedd - £4,000.00 - cyfraniad i gadw toiled Llandanwg yn agored

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Eurig Hughes a wnaeth y Cyng. Russell Sharp gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Medi)
Cyllid a Thollad - £141.41 - ad-daliad TAW

GOHEBIAETH
Mr. Roger Mayne
Wedi derbyn e-bost arall gan yr uchod yn datgan ei fod ddim yn hapus hefo ymateb yr Aelodau a dderbyniodd yn dilyn cyfarfad y Cyngor Cymuned mis diwethaf ag yn datgan ei fad wedi mesur Ffardd Gian y Mor yn Harlech sydd gyda'r llinellau hyn a body ffordd hon yn llai na'r ffordd i lawr am Y Maes. Hefyd yn datgan bod materion eraill angen eu cysidro ynglyn ar ffordd hon megis bod llwybr yr arfordir yn rhedeg fyny'r ffordd hon a bod amryw o gerddwyr yn ei defnyddio ag hefyd bod stesion Llandanwg yn cael ei defnyddio yn rheolaidd a bod hi ddim yn ddiogel i gerdded lawr i'r traeth ilag y chwaith i'r cyfeiriad arall. Yn gofyn i'r Aelodau ail feddwl am ei gynnig. Cytunwyd i anfan at yr Adran Priffyrdd i ofyn am eu barn ynglyn a gosod llinellau o'r fath neu a fyddai arwydd yn well.

UNRHYW FATER ARALL
Adroddodd y Cyng. Mair Thomas bod cyfarfod o bwyllgor y neuadd wedi cael ei gynnal ar yr 8ed o'r mis hwn a body Cyng. Robert G. Owen yn ei gadeirio. 'Roedd sefyllfa ariannol yn dal yn iach a gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer Sul y Cofio, wi-fi yn gweithio yn dda. Bydd cyfarfod nesa o'r pwyllgor yn cael ei gynnal ar yr 28ain o lonawr 2026.
Eisiau anfan at y Gwasanaeth Morwrol i dynnu eu sylw at yr holl dywod sydd yn y maes parcio yn Llandanwg ag hefyd eisiau gadael iddynt wybod bod y llwybr am y traeth yn araf cau hefa tywod.
Cafwyd wybod bod gyrrwyr busiau yn cwyno am yr eiddew sydd wedi gor-dyfu ar ochor y ffardd o groesffardd Caersalem i lawr am y neuadd. Cytunwyd anfan at yr Adran Priffyrdd unwaith yn rhagor ynglyn a hyn.

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Gwynfar Owen ei fad yn ymddiheuro ei fad wedi methu cyfarfodydd blaenorol oherwydd salwch, ei fad wedi cael ei benodi yn Gadeirydd Grwp y Plaid yn Wynedd. Cafwyd wybod bod aelodau Cyngor Gwynedd yn siomedig am gohirio yr adroddiad gan Bwyllgor Diogelu Gogledd Cymru wrth gyhoeddi eu canfyddiad I ymchwiliad o gamdrin myfyrwyr gan Neil Faden. Cafwyd wybod bod etholwr wedi gofyn a fyddai yn bosib ildio pob ffardd ar yr hen Ffardd Llanfair ger groesffardd Caersalem, ond cafwyd wybod body mater hwn wedi cael ei drafad flynyddoedd yn nol gan y Cyngor a bod hyn ddim yn mynd I weithio.
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda'r Adran Priffyrdd ynglyn ar arwydd "Llanfair" oedd wedi diflau ag ei bod wedi cael gwybod ganddynt bod arwydd newydd wedi ei archebu ganddynt a bydd hwn yn cael ei osod unwaith fydd wedi cyrraedd. Hefyd 'roedd wedi trefnu I gontractwr dorri y gor-dyfiant l'r ffordd sydd o amgylch yr arwydd hwn ar ol I berchennog Bron Twrog ofyn iddi wneud

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 19eg o Dachwedd 2025 am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg