YMDDIHEURIADAU
Cyng. Guy Slater (Is-Gadeirydd), Mair Thomas, Eurig Hughes, Robert G. Owen, Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Hywel Jones, David J. Roberts, Osian Edwards a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 15ed 2026 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,282.57 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £7,252.81 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Cynllun Grant Gwynedd Ni
Adroddodd y Clerc ei bod wedi tynnu lluniau o’r seddi fel y maen’t yn awr oherwydd bod hyn yn un o amodau y grant ag hefyd yn gofyn a fyddai yn iawn iddi archebu y seddi nawr. Cytunwyd i archebu y seddi ag rhoddwyd awdurdod i’r Clerc/Trysorydd dalu yr anfoneb os bydd angen cyn cyfarfod nesa y Cyngor.
Sul y Cofio
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid y mater hwn ar yr agenda er mwyn atgoffa pawb y bydd yn cael ei gynnal ar yr 8ed o Dachwedd.
PCEISIADAU CYNLLUNIO
Codi estyniad cyntedd to brîg ar y cefn Maes Teg, Cae Garw, Llanfair.(NP5/66/245C)
Cefnogi y cais hwn
Dymchwel yr estyniad cefn presennol a chodi estyniad un llawr gyda tho brig 3 Pant Goleu, Llanbedr (NP5/66/294)
Cefnogi y cais hwn
TADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £20,992.99 yn y cyfrif rhedegol a £5,855.60 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £38.87 - wi-fi y neuadd (Gorffennaf)
BT - £35.60 - wi-fi y neuadd (Awst)
Mr. M. J. Kerr - £500 .00 - agor bedd y diweddar Mr. Anthony Roy Jones
Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis
Cyngor Gwynedd - £408.00 - archwiliad mewnol 2025/26
Mr. Arwel Thomas - £325.00 – torri gwair y fynwent
Archwiliad Cymru - £200.00 - cwblhau archwiliad allanol 2024/25
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Hywel Jones a wnaeth y Cyng. David John Roberts gymeradwyo'r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I'r Clerc/Trysorydd Iw' talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Awst)
Cyngor Gwynedd - £9,400.00 - hanner y presept
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Medi)
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Llwyn y Gadair draw am Ffordd
Uwchglan yn cael ei chau ar yr 1af o fis nesa ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith ar ran SP
Energy
Networks. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd ffordd Sarn Hir l yn cael ei chau dros nos ar yr
14eg o fis nesa ag hefyd dros nos ar y 15ed ar 16eg ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith ailwynebu.
‘
‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod ynglyn a gwaith sydd yn cael ei gario allan yn yr ardal yn ystod y mis. ‘Roedd
y Clerc
Wedi anfon hwn ymlaen i Aelodau yn barod
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod yn datgan os oedd y Cyngor yn hapus b
byddai y
ffioedd parcio ymaes parcio Y Maes, Llandanwg yn cael eu newid yn nol i fod yn faes parcio “archosid byr” yn lle un
“arhosiad
hir” fel y mae yn nawr a byddai y ffioedd yn cael eu newid fel yr oeddynt o’r blaen sef £1.55 am awr, £3.10
am
ddwy awr a £4.60 am dair awr. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod ag wedi cael ateb
gan y mwyafrif yn datgan eu bod yn hapus i hyn gael ei wneud ag ‘roedd y Clerc wedi hysbysu Cyngor Gwynedd o
hyn.
mwyafrif yn datgan eu bod yn hapus i hyn gael ei wneud ag ‘roedd y Clerc wedi hysbysu Cyngor Gwynedd o
hyn.
Council of this.
Radio Ysbyty Gwynedd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gymorth ariannol gan y Cyngor. Cytunwyd i’w drafod y
yng nghyfarfod
nesaf y Cyngor gyda gweddill y ceisiadau. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob
Aelod yn barod. Cytunwyd ei
adael ar y bwrdd a’i drafod yng nghyfarfod nesa y Cyngor
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn ynglyn ar ffaith bod y garafan wedi dychwelyd
i’r llecyn
tir ger y Capel ag ei bod wedi trosglwyddo y gwyn hon i’r Parc Cenedlaethol, ‘roedd wedi trafod y mater gyda
Swyddog o’r Parc a nid oedd ddim gohebiaeth arall wedi cael ei dderbyn ganddynt. ‘Roedd Cyngor Gwynedd
wedi
gofyn a oedd yn hapus i’r ffioedd parcio yn maes parcio Y Maes, Llandanwg gael ei newid yn nol ag ‘roedd wedi
ymateb yn datgan ei bod yn hapus i hyn gael ei wneud er lles y caffi ar bobl lleol sydd yn ymweld ar lle bron
pob dydd o'r flwyddyn
UNRHYW FATER ARALL
Nid oedd gan neb unrhyw fater arall i’w godi.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 14eg o Hydref 2026 am 7.30 o’r gloch