Cofnodion o gyfarfod cyngor cymuned Llanfair - 17/07/24

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair 17/07/24

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones, Osian Edwards, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

 

PRESENNOL

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas,, Guy Slater, David .J Roberts a'r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd.

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Sioned Vaughan Williams i'r cyfarfod er mwyn iddi gael cyfle i adael i'r Cyngor wybod ei chyniluniau gyda Caffi'r Maes unwaith fydd yn ei gymeryd drosodd yn mis Hydref. Cafwyd wybod y bydd yn cymerdy drosodd y caffi ar y laf o Hydref ag ei bod yn wriad bod yn agored drwy'r gaeaf ag hefyd ar y laf o Ragfyr cynnal gwyl fach ag 'roedd yn gofyn am syniadau a chymorth ynglyn a cynnal hyn. 'Roedd yn gofyn beth fyddai ei angen i gael goleuadau nadolig ar hyd y ffordd o Landanwg i fyny at Fron Deg ag awgrymwyd ei bod yn cysylltu a Tomos Slattery yn Cyngor Gwynedd ynglyn a hyn, 'roedd eisiau gwybod sut i fynd o gwmpas i gael biniau ysbwriel ail gylchu yn y maes parcio ag awgrymwyd ei bod yn cysylltu a Steffan Jones yn Cyngor Gwynedd. Hefyd cafwyd wybod ei bod yn mynd i godi arian i gael cadair olwyn pwrpasol i fynd law i lan ymor ag awgrymwyd ei bod yn trio am grant gan y loteri cenedlaethol. ‍

 

COFNODION

Derbyniwyd conodion o gyfarfod Mehefin 5ed 2024 fel rhai cywir.

 

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £6,557.89 (s oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn yflwyddyn ariannol newydd abod hyn yn £3,388.12 owariant yn lai na oedd wedi cael ei glustnodi yn ygylideb am y flwyddyn.

 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Rob Lewis bod BT yn dod i osod y wi-fi yn y neuadd dydd Gwener y 19eg o r mis hwn.

 

Wefan y Cyngor

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr Owen Brown bod wefan y Cyngor bellach yn fyw ond bod ychydig o waith yn dal angen ei neud arni. 'Roedd y Clerc wedi anfon linc y wefan i bob Aelod. 'Roedd yr Aelodau yn falch o weld y wefan yn fyw ag nid oedd ganddynt ddim sylwadau iw gwneud arni.

 

Bedd Ben Rowlands

Yn dilyn cyfarfod diwethaf y Cyngor aeth rhai o'r Aelodau draw i'r fynwent i weld y bedd uchod. Cytunwyd bod angen tynnu y darn gwaelod a rhoid y groes i sefyll a gosod plac ar y gwaelod gyda'r dyddiad a beth oedd ei waith yn y pentre arno. Cytunwyd gofyn i'r Cyng. Hywel Jones wneud y gwaith hyn a gofyn i gwmni Pritchard a Griffiths a fyddai modd iddynt ddylunior plac.

 

HAL

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd achopi drafft ogynllun busnes y safle ag yn nodi bod cyfarfod wedi ei drefnu rhwng y Cynghorau ar y 4ydd o'r mis hwn ond oherwydd bod ddim digon yn mynd i fynychu y cyfarfod 'roedd wedi cael ei ganslo.

 

Ceisiadau Cynllunio

Gosod 8 panel haul ar y ddaear (370w) Uwchglan, Llanfair (NP5/66/269A) CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG (NP5/66/269A) AMENDED APPLICATION

Cefnogi y cais hwn

Datganodd y Cyng. David John Roberts ddiddordeb yn ycais cynilunio uchod a nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

​​

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £9,836.85 yn y cyfrif rhedegol a £5,667.48 yn y cyfrif cadw.

 

Taliadau yn ystod y mis

Mr. Arwel Thomas - £620.00 - torri gwair y fynwent x 2 ('roedd yr anfoneb hon wedi ei thalu fel a gytunwyd yn dilyn cyfarfod diwethaf y Cyngor)

Cyllid a Thollad - £124.80 - treth ar gyflog y Clerc

Mr. M.J. Kerr - £460.00 - agor bedd y diweddar Mr. Jamie Gaskell

Dwr Cymru - £17.02 - tap y fynwent

Cyngor Gwynedd - £4,000.00 - cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored

Mr. Arwel Thomas - £620.00 - torri gwair y fynwent x 2

 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy - £714.00 (cyfraniad misol)

 

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cyng. David John Roberts gymeradwyo'r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I'r Clerc/Trysorydd Iw' talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey - £40.00 - rhent cwt yr hers (Gorffennaf)

Glyn Rees a'i Fab - £1,824.00 - claddu y diweddar Mr. Jamie Gaskell

 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd

Wedi derbyn lythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn cario allan y gwaith o osod pyst cyfeirbwyntio, am newid giat a physt a torri llystyfiant ar llwybr cyhoeddus 15,28 a 33 o Brwyn Llynau i Hengaeau yn ystod y mis hwn.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd Ilwybr cyhoeddus rhif 53 yn cael ei gau o'r 29ain o'r mis hwn ymlaen er mwyn cario allan gwaith cynnal wal gerrig ar ran Network Rail..

 

Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol

Wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod ynglyn a ymgynghoriad sysem pleidlais sengl ag yn datgan bod yna lincir ymgynghoriad er mwyn i'r Cyngor ei gwblhau. Cytunwyd anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.

 

Transport for Wales

Wedi derbyn e-bost gan Gail Jones ar ran yr uchod gyda'r diweddariad ynglyn a Lein y Cambrian ag yn datgan eu bod wedi derbyn ychydig dros 500 o ymatebion ag er eu bod yn dal i adolygu adborth gan eu rhanddeiliaid mewn perthynas â rhannau eraill o'r rhwydwaith, maen't mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i hi am y newidiadau maen't wedi gallu eu gwneud i amserlen Rheilffordd y Cambrian yn dilyn y broses adolygu hon, a gallem gael manylion am y rhain isod.

Mae'r cynnig i redeg y trenau ychwanegol i gynyddu'r amider i Aberystwyth i 1 trên llawn yr awr yn yr haf yn unig (Mawrth-Medi) i barhau h.y. NI fydd hyn yn cael ei gyflwyno yn y gaeaf. Fodd bynnag, byddant yn ychwanegu trên 16:30 o Amwythig i Aberystwyth drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn oherwydd niferoedd uwch o deithwyr ar drên 17:30 o Amwythig i Fachylleth. Byddant yn anelu at gyflwyno'r gwasanaeth ychwanegol hwn ym mis Mai 2025, ond mae'n amodol ar gytundeb gyda gweithredwyr eraill a Network Rail. Bydd ygwasanaeth 1trên yr awr ehangach yn dod i rym o fis Mawrth 2026.

Bwriedir symud y gwasanaeth 08:52 o Fachynlleth i Bwllheli a dychwelyd o Bwllheli am 11:37 yn ystod y gaeaf. Cafwyd ymateb sylweddol ir cynnig hwn. Ar ôl llawer o ystyriaeth, maen't wedi dewis cadw'r gwasanaethau 08:52 ac 11:37 dwy'r flwyddyn, fodd bynnag bydd niferoedd teithwyr a refeniw yn cael eu monitro'n agos dros gynod y gaeaf nesaf a'u hadolygu wrth gynllunio amserlen Rhagfyr 2025.

Bydd y gwasanaethau min nos olaf yn yr haf (mis Mawrth i Rhagfyr) -yn rhedeg ar yr un amseroedd ag y maent yn rhedeg ar hyn o bryd rhwng Pwilheli a Machynlleth (tua 20:26 Pwilheli tua'r de a 21:47 Machynlleth tua'r gogledd).

Byddant yn dyblu capasiti 4 gwasanaeth allweddol Arfordir y Cambrian o haf 2025 o 2 gerbyd i 4 cerbyd i gefnogi pobl leol, twristiaid a busnesau twristiaeth Ileol allweddol. Bydd hyn yn golygu y bydd 560 yn fwy o seddi ar wasanaethau Arfordir yCambrian yn ystod yr haf o gymharu a Haf 2022

 

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod gyrrwyr bysiu yn cwyno bod gor-dyfiant yn dod o Rhiwenglau a cytunwyd cysylltu gyda r Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.

Datganwyd pryder bod ygwair ger yseddi choeddus ar biniau ddim yn cael ei dorri yn ymaes parcio yn Llandanwg a cytunwyd cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn.

Eisiau gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai modd creu lIwybr troed o Ty Gwyn lawr at maes carafanau Llandanwg am bod y gwair ar hyd ochor y ffordd yn rhy fawr i rhai gerdded yn ddiogel ag eu bod yn gorfod cerdded ar y ffordd.

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas a Robert G. Owen bod cyfarfod o bwyllgor y neuadd wedi cael ei gynnal ar y 3ydd o'r mis hwn a cytunwyd gofyn i Mr. Rob Lewis a fyddai modd iddo archebu teledu pwrpasol ar gyfer cynnal cyfarfodydd zoom os bydd angen. Bydd cyfarfod nesa pwyllgor y neuadd yn cael ei gynnal ar y 26ain o Fedi.

 

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes - adroddodd bod y Tim Tacluso Ardal Ni wedi chwynu y maes parcio unwaith yn rhagor, 'roedd wedi cael ateb gan Gyngor Gwynedd ynglyn a perchnogion cwn ddim yn cadw i'r ochor iawn ar draeth Llandanwg ag felly yn torri rheolau ag yn datgan byddai Swyddogion sydd wedi eu hawdurdodi i gyflwyno dirwyon cosb i drosweddwyr yn ymdrechu i ymweld ar traeth ag hefyd bydd y mater yn cael ei drafod gyda Swyddog yn yr uned Gorfodaeth er mwyn gweld aellir derbyn cymorth yn y lleoliad hwn.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 18ed o Fedi am 7.30 o r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg