Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 17/09/25

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 17/09/25

YMDDIHEURIADAU
Dim

PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Guy Slater (Is-Gadeirydd), Osian Edwards, Hywel Jones, Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J. Roberts, Mair Thomas, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).

Croesawodd y Cadeirydd Gary ag Adrian Stevens o Tyn Llan i’r cyfarfod i drafod beth i wneud gyda’r wal sydd wedi disgyn rhwng y fynwent a Tyn Llan unwaith yn rhagor. Datganwyd gan y Cyng. Robert G. Owen ag Eurig Hughes eu bod wedi ymweld ar wal ag bod mwy o’r wal wedi disgyn i lawr y tro hwn a wedi difrodi petha yn ardd Tyn Llan. Gofynnwyd a oedd hon yn wal derfyn ag felly yn gyfrifoldeb y Cyngor a Gary ag Adrian Stevens ond cytunwyd i holi am brisiau i’w ail chodi i gychwyn .

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 16eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £5,250.39 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £4,507.79 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Bwrdd Gwybodaeth yn Llandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael ateb pellach gan yr Adran Morwrol, Cyngor Gwynedd ynglyn a gosod hysbysfwrdd plastic newydd yn Llandanwg ag yn datgan bod yr hysbysfwrdd wedi eu cyrraedd a byddant yn trefnu i’w osod yn y dyfodol agos. Adroddodd y Clerc ymhellach bod yr anfoneb o £500 am gyfraniad y Cyngor Cymuned tuag at archebu yr hysbysfwrdd hwn wedi cyrraedd a cytunwyd i’w thalu.

Wal y Fynwent
Y mater hwn wedi cael ei drafod ar gychwyn y cyfarfod a cytunwyd gofyn am bris i’w godi gan Meirion Evans, Arfon Pugh, Elfyn Pugh a Gorwel Rogers ag iddynt gysylltu gyda’r Cyng. Robert G. Owen neu David J. Roberts oes oeddynt eisiau cael golwg ar y wal cyn rhoid pris i mewn.

Ceisiadau Cynllunio
Codi sied gardd Llanfair Uchaf, Llanfair (NP5/66/153C)
Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £25,742.48 yn y cyfrif rhedegol a £5,772.61 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 – rhent wi-fi y neuadd
Mr. M. J. Kerr - £500 .00 - agor bedd y diweddar Mrs Christine Anelay
Mr. M. J. Kerr - £480 .00 - agor bedd y diweddar Mr. Edwin Lewis
Mr. Arwel Thomas - £640.00 – torri gwair y fynwent x 2
Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis
Cyngor Gwynedd - £408.00 - archwiliad mewnol 2024/25
Cyngor Gwynedd - £500.00 - cyfraniad y Cyngor Cymuned i archebu hysbysfwrdd gwybodaeth yn Llandanwg

Anfonebau wedi eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Mr. Christian Bowater - £280.00 - torri gwair y llwybrau
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Eurig Hughes a wnaeth y Cyng. Hywel Jones gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Awst)
Pritchard a Griffiths - £1,960.50 – claddu y diweddar Mrs Hefina Griffiths
Pritchard a Griffiths - £254.00 - claddu llwch y diweddar Mr. David Greenwood
Cyngor Gwynedd - £9,000.00 - hanner y precept

GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr Adran uchod yn datgan bydd y coed sydd ar hyd ochor y ffordd o Argoed i Pensarn yn cael eu hasesu ag os byddant angen triniaeth byddant yn cael hyn or ol y tymor nythu rhwng mis Medi ac Ebrill. Hefyd yn datgan bod y Peiriannwr Goleuo yn mynd i ymweld a delio gyda’r golau stryd sydd ymlaen yn barhaol ar y ffordd gefn o Pensarn draw am Llanbedr.

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Rhiwgoch draw am Foel yn cael ei chau ar yr 21ain o fis nesa ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith ar ran Dwr Cymru.

Mr. Roger Mayne
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn pam bod yr Aelodau heb gefnogi ei gais i gael ardal cerdded wedi ei farcio ar hyd ochor y ffordd o bont y rheilffordd i’r maes parcio ond hwyrach yn cychwyn ger mynedfa safle parc carafanau Llandanwg. ‘Roedd yn gofyn i’r mater hwn gael ei drafod yng nghyfarfod hwn o’r Cyngor fel ei fod yn gallu gweld pwy oedd yn gwrthwynebu a pham. Cytunwyd i ateb a datgan oherwydd materion diogelwch nid oedd y Cyngor yn cefnogi ei gais.

Ms Helen Parslow
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diolch i’r Cyngor am drefnu bod y llwybr cyhoeddus tu ol i Llwyn Hwlcyn yn cael ei dorri a bod y llwybr hwn wedi cael ei dorri yn ardderchog ag ei bod yn gallu ei gerdded yn nawr heb ddim problem.

Ms Ros McAlister
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diolch i’r Cyngor am drefnu bod y llwybr cyhoeddus o Hen Gaerffynnon lawr i’r ffordd fawr yn cael ei dorri a bod y llwybr hwn wedi cael ei dorri yn ardderchog ag ei bod yn gallu ei gerdded yn nawr heb ddim problem.

UNRHYW FATER ARALL
Angen torri yr eiddew sydd wedi gor-dyfu ger cwt yr hers ac adroddwyd oherwydd bod y tyfiant yn gryf byddai yn well gofyn i rhywun sydd yn torri coed ei dorri ag hefyd bydd angen cael ei waredu. Cytunwyd gofyn i Mr. Christian Bowater wneud y gwaith hwn.
Cytunwyd byddai y maes parcio yn Llandanwg gallu gwneud hefo bin ailgylchu arall oherwydd bod yr un sydd yna yn gweithio mor llwyddianus. Cytunodd y Cyng. Guy Slater wneud ymholiadau ynglyn a hyn ond datganwyd pryder bod y biniau ddim yn cael eu gwagio ddigon aml yn enwedig yn ystod tymor yr ymwelwyr.
Eisiau anfon at yr Adran Priffyrdd i ofyn a fyddai yn bosib trefnu bod yr eiddew sydd yn tyfu ar hyd ochor y ffordd gyferbyn ag ystad dai Derlwyn ag i fyny ffordd Uwchglan.

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 15ed o Hydref am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg