Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 18/06/25

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 18/06/25

YMDDIHEURIADAU
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones

PRESENNOL
Cyng.Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Daeth dwy aelod o’r cyhoedd i’r cyfarfod i drafod eu pryderon am yr or-yrru ar hyd yr A496 ar peryglon ger groesffordd Frondeg a gwelwyd fideo o yrrwr yn troi i mewn am Cae Cethin a bron achosi damwain gyda ceir yn dod o gyfeiriad Harlech. ‘Roedd y ddwy yn gofyn a fyddai yn bosib i leihau y cyflymder traffic o 40 m.y.a i 30 m.y.a ar hyd y rhan yma o’r A496. Diolchwyd i’r ddwy am ddod a hyn i sylw y Cyngor. Ar ddiwedd y cyfarfod trafodwyd y mater hwn a cytunwyd i beidio dod ar cyflymder gyrru i lawr ond bod y Cyng. Gwynfor Owen yn gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai yn bosib gosod arwyddion cynghori ger Frondeg a gosod mesurau lliniaru traffic ar y ffordd.

Estynwyd longyfarchiadau y Cyngor i’r Cyng. Osian Edwards a’r teulu ar enedigaeth efeilliad yn ddiweddar.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 14eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
a) Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2025/26:-
Cadeirydd Cyng. Russell Sharp
Is-Gadeirydd: Cyng. Guy Slater

Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £1,409.08 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,274.01 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Polisi Yswiriant y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu â'r cwmni yswiriant mewn perthynas â pholisi y Cyngor yn gofyn iddynt ddileu peiriannau torri gwair a pheiriannau ac offer chwaraeon o'r polisi ac wedi derbyn ateb yn nodi eu bod yn strwythuro eu polisi yswiriant fel pecyn sy'n darparu isafswm lefel benodol o yswiriant ac maent yn gwneud hyn i geisio sicrhau bod gan Gynghorau yswiriant digonol ac nad oes rhaid iddynt ddweud wrthynt bob tro y mae newid i swm yswiriedig, cyn belled â'i fod o fewn y terfyn yswiriant, gan arbed amser i'r Cyngor ar weinyddu. Hefyd yn nodi y gallant gynyddu'r yswiriant ar unrhyw adeg ond ni allant gael gwared ar yr adrannau isod yn unigol.
•Cynnwys
• Dodrefn Stryd • Waliau, gatiau a ffensys • Offer Maes Chwarae • Cofebion Rhyfel • Peiriannau torri gwair a pheiriannau • Offer Chwaraeon
Waliau, Gatiau a ffensys
Offer Maes Chwarae
Cofebion Rhyfel
Offer Chwaraeon

Torri Gwair Llwybrau Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddog Llwybrau yn Cyngor Gwynedd ynglyn a methiant y Cyngor i gael contractwr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal ag ei fod wedi awgrymu bod y Cyngor gyda Mr. Peter Roberts a Mr. Llur Edwards i ofyn a fyddai ganddynt ddiddordeb i wneud y gwaith hwn. Cytunwyd cyn cysylltu gyda’r ddau hyn i anfon copi o’r llwybrau sydd yn cael eu torri i’r Cyng. Guy Slater.

Bwrdd Gwybodaeth yn Llandanwg
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Adran Morwrol o Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod ag hefyd ei bod wedi derbyn e-bost gan Mrs Carole Beavis o Landanwg yn datgan ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddog Morwrol ag ei fod wedi datgan bod ganddynt ddim arian ar hyn o bryd i archebu bwrdd gwybodaeth, ond byddant yn fodlon cyfranu at y gost o archebu un ag hefyd ei osod. ‘Roedd Mrs Beavis yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon cyfranu £500 tuag at archebu bwrdd gwybodaeth. Cytunwyd gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddant yn fodlon i hysbysfwrdd alwminiwm gael ei osod ar wal y toilet a gosod gwybodaeth sydd yn sticio arno. Hefyd gofyn i Gyngor Gwynedd i wneud y dyluniad fydd angen arno ag hefyd cytuno ar maint yr hysbysfwrdd.

Ceisiadau Cynllunio
Gosod 14 o baneli solar sy’n sefyll ar wahân ar y ddaear o fewn cwrtil preswyl Pant-yr-Onnen, Llanfair (NP5/66/4D)
Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £15,272.65 yn y cyfrif rhedegol a £5,748.11 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 – rhent wi-fi y neuadd
Mr. M. J. Kerr - £480 .00 - agor bedd y diweddar Mr. Ifor Gwynedd Williams
Clear Insurance Ltd - £727.08 - Yswiriant y Cyngor am y flwyddyn
Mrs Annwen Hughes - £499.98 – cyflgo 3 mis
Mr. D. A. Thomas £320.00 - torri gwair y fynwent
*Cytunwyd i dalu anfoneb Mr. D. A. Thomas unwaith fydd wedi cael ei derbyn

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cyng. David John Roberts gymeradwyo'r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I'r Clerc/Trysorydd Iw' talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)
Cyngor Gwynedd - £1,016.54 – ad-daliad incwm maes parcio

GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn mynd i osod 3 postyn cyfeirbwyntio, clerio llystyfiant, addasu giatiau, crafu wyneb llwybr, crafu grisiau a ailgyfeirio dwr ag atgyweirio llinell ffens ar llwybr cyhoeddus rhif 22, 23 a 27 yn ystod y mis hwn.

UNRHYW FATER ARALL
Cytunwyd i dynnu y sedd sydd wedi malu yn maes parcio Llandanwg a gofyn i’r Cyng. Hywel Jones ddelio gyda’r mater hwn.
Eisiau gofyn i’r Adran Priffyrdd dorri y gwrych sydd gyferbyn a Gelli, Llandanwg.

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bydd ganddo gynnig yng nghyfarfod nesa o gyfarfod y Cyngor Llawn yn Cyngor Gwynedd ynglyn a tanwariant ar y rheilffyrdd yn Cymru.
‘Roedd wedi cael cais i gael llwybr cerdded lawr yn Llandanwg ag eisiau barn y Cyngor Cymuned ynglyn a hyn ag ar ol trafodaeth cytunwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu y syniad hwn.
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Tim Tacluso Ardal Ni i ofyn iddynt glerio y chwyn o’r maes parcio yn y pentre a bod y gwaith hyn bellach wedi cael ei gwblhau.
Roedd wedi derbyn e-bost gan Gyngor Gwynedd yn datgan bod gwaith uwchraddio yn cael ei wneud ar yr amlosgfeydd yn Amlosgfa Bangor a bod hyn yn golygu o hyn ymlaen tan mis Rhagfyr 2025 ddim ond 4 gwasanaeth fydd yn cael ei gynnal y diwrnod a ni fydd gwasanaethau yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn.
‘Roedd sawl aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu a hi yn datgan pryder bod safle Ffridd Rasus yn cau ag oherwydd hyn ‘roedd wedi cael cyfarfod gyda un o’r Swyddogion o Gyngor Gwynedd i gael gwybod beth oedd y diweddaraf ynglyn ar safle hwn ag ‘roedd wedi cael gwybod nid oes cynlluniau i gau y safle ond nid ydynt yn agored ar fore Llun i’r cyhoedd ar sail iechyd a diogelwch.

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 16eg o Orffennaf 2025 am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg