Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 21/2/24

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 21/2/24

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Hywel Jones

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Osian Edwards, Guy Slater, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

Croesawodd y Cadeirydd 2 aelod o’r cyhoedd i’r cyfarfod a cafwyd wybod bod un o rhain bellach yn aelod o Fwrdd HAL. Ar ran HAL diolchodd y ddwy i’r Cyngor am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd ag hefyd bod y Cyngor hwn wedi cytuno i gario ymlaen i gyfranu o dan y cynllun precept. Cafwyd wybod ganddynt bod HAL wedi derbyn grantiau i gario allan gwahanol archwiliadau a mae rhain yn cymeryd lle ar hyn o bryd.

Gofynwyd ganddynt a fyddai modd i’r Cyngor fod yn fwy agored a rhoi cofnodion y cyfarfodydd yn gymraeg a saesneg i fyny ar hysbysfyrddau y pentre ag hefyd a fyddai modd i’r cyfarfod blynyddol fod yn agored i’r cyhoedd. Hefyd datganwyd siom gan un o’r cyhoedd bod neb o’r Cyngor yn bresennol yn gwasanaeth Sul y Cofio yn mis Tachwedd nag yn y cyfarfod cyhoeddus gyda HAL diwedd mis diwethaf. Diolchwyd i’r ddwy am ddod i’r cyfarfod. Cafwyd trafodaeth ynglyn ar materion uchod ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor a cytunwyd i wneud y cofnodion yn y ddwy iaith o hyn ymlaen a datganwyd bod bob cyfarfod o’r Cyngor yn agored i’r cyhoedd a nid oedd y cyfarfod blynyddol yn wahanol.

Estynodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Cyngor ar Cyng. Guy Slater a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei Fam yn ddiweddar.

Estynwyd longyfarchiadau y Cyngor i’r Cadeirydd a’r teulu ar enedigaeth Wyr bach yn ddiweddar.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 10ed 2024 fel rhai cywir.

Angen dileu llinellau 4 a 5 o’r cofnodion lle oedd HAL yn cael ei drafod.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £18,060.67 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,615.23 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc bod ddim mwy i adrodd ynglyn ar uchod ddim ond bod Mr. Rob Lewis yn gweithio i gael sustem yn ei le yn y neuadd a gobeithio fydd wedi cael ei gwblhau yn y mis nesa

HAL

Adroddodd y Cyng. David John Roberts ei fod wedi mynychu cyfarfod a oedd wedi ei gynnal yn y neuadd bentref, Llanbedr ar yr 14eg o’r mis hwn rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal er mwyn cael trafod y ffordd ymlaen gyda HAL.

Roedd y Clerc wedi anfon copiau o gyfrifon HAL i fyny at ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd i bob Aelod ac hefyd adroddodd bod cyfarfod arall yn mynd i gael ei gynnal rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL ar yr 22ain o’r mis hwn, ond cafwyd wybod gan y Clerc bod y cyfarfod hwn bellach wedi cael ei gansol a bydd cyfarfod yn cael ei gynnal mis nesa. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL cyn cychwyn am y cyfarfod ag ei bod wedi ei basio ymlaen i bob Aelod.

Wefan y Cyngor

Adroddodd y Clerc nawr bod Cyngor Cymuned Harlech wedi cael wefan newydd nid oedd yn bosib cynnwys deunydd y Cyngor hwn arni oherwydd bod yr Archwilydd Allanol wedi datgan bod yn rhaid i bob Cyngor gael wefan eu hunain ag felly bydd yn rhaid i’r Cyngor hwn gael rhywun i greu gwefan iddynt. Cytunwyd gwneud ymholiadau gyda Mr. Owen Brown yn gyntaf ynglyn a datblygu wefan i’r Cyngor ag os nad oedd yn bosib iddo wneud y gwaith bod y Clerc yn cysylltu gyda cwmni Delwedd.

Pwyllgor y Neuadd - 25.1.24

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas a Robert G. Owen bod cyfarfod o’r pwyllgor uchod wedi cymeryd lle a bod y ddau wedi ei fynychu. Cafwyd wybod bod cynlluniau i osod gwresogydd ar wal y gegin ag hefyd bod y neuadd wedi derbyn arian o goffra Capel Caersalem. Bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal ar yr 20ed o fis Mawrth.

Ceisiadau Cynllunio

Diwygio Amod Rhif 8 ynghlwm i Ganiatad Adeilad Rhestredig NP5/66/LB186 i’r uned wyliau gael ei rhedeg a’i rheoli mewn cysylltiad â pharsel o dir 10 erw (Daliad Amaethyddol Rhif 53/306/0010) - Beudy Allt y Môr, Llandanwg (NP5/66/LB186C)

Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £9,425.74 yn y cyfrif rhedegol, a £5,610.97 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

SLPW - £694.80 – sedd newydd i’r fynwent

Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Mr. John Forster (llwch)

Llais Ardudwy - £20.00 - hysbyseb tenderau torri gwair (rhifyn Chwefror 2024)

Mrs Annwen Hughes - £380.00 (cyflog 3 mis) + £409.75 (costau blwyddyn) = £789.75

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy - £2,856.00 (cyfraniad misol x 4)

Adroddidd y Trysorydd bod gan y Cyngor 4 taliad i’w wneud i’r uchod cyn diwedd mis Mawrth a cytunwyd i dalu rhain i gyd yn nawr.

CFFI Meirionnydd - £150.00

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Eurig HUghes a wnaeth y Cyng. Robert G. Owen gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Chwefror)

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.

GOHEBIAETH

CFFI Meirionnydd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor eto eleni. Cytunwyd i gyfranu £150.00 iddynt.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod goriad hysbysfwrdd sydd yn Y Maes Llandanwg wedi mynd ar goll a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda cwmni Greenbarnes i ofyn a oriad newydd.

Cafwyd wybod bod darn o wal y fynwent wedi chwalu wrth Tyn Llan a cytunwyd gofyn i’r Cyng. Hywel Jones i ddelio gyda’r mater hwn.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd o ddydd Llun Chwefror 12fedth bydd amserlen newydd ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc yn cael ei chyflwyno ar Wasanaeth Bws G23 a bydd 4 taith y dydd ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc a bydd yn gweithredu rhwng Abermaw, Harlech a Phorthmadog a bydd cysylltiadau gyda Gwasanaeth TrawsCymru T3 ar gael yn Abermaw. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Lloydscoaches.com/serviceup-date/servicechanges. Hefyd ‘roedd wedi mynychu cyfarfod gyda’r Heddlu yn Bermo ar y 13egth o'r mis hwn

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad i Gynghorwyr yn ddiweddar, cyfarfod o bwyllgor yr Awdurdod Tan ag eu bod hefo cynnig i wella y gwasanaeth i’r ardal hon yn dilyn yr ymgynghoriad ond bod hyn wedi ei golli o un bleidlais. ‘Roedd wedi mynychu cyfarfod Grwp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth y Cyngor. Bydd treth y Cyngor yn codi i 9.5% eleni gyda torriadau o £4.8 miliwn yn cael eu gwneud a bydd y sefyllfa yn gwaethygu eto y flwyddyn nesa.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 10ed o Ebrill am 7.30 o’r gloch

 

 

 

476

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg