YMDDIHEURIADAU
Cyng.. Russell Sharp (Cadeirydd), Hywel Jones.
PRESENNOL
Cyng. Guy Slater (Is-Gadeirydd), Osian Edwards, Mair Thomas, Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J. Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 11eg 2026 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £18,523.17 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £194.87 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2026/27 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
Adroddiad Blynyddol y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi llunio pedwerydd adroddiad blynyddol ar ran y Cyngor ag ‘roedd wedi anfon copi i bob Aelod yn barod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.
Cynllun Grant Gwynedd Ni
Ymhellach i’r e-bost a dderbyniwyd gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor byddai grant ar gael i Gynghorau Cymuned drwy Cronfa Cefnogi Cymghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd 2026, ‘roedd gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn a gafwyd wybod byddai y Cyngor hwn yn gallu cael grant hyd at £5,500 oherwydd eu bod yn Gyngor gyda poblogaeth llai na 1,000 o drigolion. Cytunwyd i wneud cais i archebu meinciau newydd o ddeunydd ail gylchu a’i gosod yn lle yr rhai sydd angen eu adnewyddu.
Cyfarfod Blynyddol y Neuadd Goffa
Adroddodd y Cyng. Mair Thomas a Robert G. Owen eu bod wedi mynychu y cyfarfod uchod ar y 25ain o fis diwethaf a bod chwech arall yn bresennol ag eu bod wedi cael adroddiadau gan y Swyddogion i gyd. Mae y gronfa ariannol yn iach a byddant yn cario allan gwaith peintio yn ystod mis Awst. Mae y Swyddogion i gyd yn aros yn eu lle a bydd y cyfarfod nesa yn cael ei gynnal ar y 1af o Orffennaf.
Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £18,853.92 yn y cyfrif rhedegol a £5,836.90 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 - wi-fi y neuadd
Cyllid a Thollad - £125.00 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. Arwel Thomas - £325.00 – torri gwair y fynwent x 2
Mr. M. J. Kerr - £480 .00 - agor bedd y diweddar Mrs Eleri John
E. W. Owen a’i Chwmni - £240.00 – cwblhau P.A.Y.E ar lein
Un Llais Cymru - £133.00 - tal aelodaeth am y flwyddyn
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Eurig Hughes a wnaeth y Cyng. Guy Slater gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Ebrill)
‘Roedd y Trysorydd wedi anfon copïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2026 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Clerc ar Is- Gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd - Adran Priffyrdd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost ynghyd a lluniau y dangos y gwaith oedd wedi cael ei gario allan ar llwybr cyhoeddus rhif 38. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod.
Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y Ffordd o Dyddyn Du draw at Bron y Garth, Pensarn yn cael ei chau ar yr 30ain o’r mis hwn ar sail iechjyd a diogelch i’r cyhoedd yn ysod gwaith amnewid polyn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
Cyngor Gwynedd - Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd gwaith o dorri coed a thyfiant yn cael ei wneud ar Llwybr Cyhoeddus rhif 53 yn ystod y mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn ynglyn ar gwaith oedd wedi cael ei gario allan i lenwi y tyllau yn y maes parcio yn Llandanwg ag ‘roedd wedi bod yn ymweld ar safle ag wedi tynnu lluniau a’i anfon ymlaen i Gyngor Gwynedd, ond hyd yma nid oedd wedi cael ymateb ganddynt.
UNRHYW FATER ARALL
Nid oedd gan neb unrhyw fater arall i’w godi.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 3ydd o Fehefin 2026 am 7.30 o r gloch