Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 11/03/26

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair - 11/03/26

YMDDIHEURIADAU
Cyng.. Guy Slater (Is-Gadeirydd), Osian Edwards, Mair Thomas, Hywel Jones

PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J. Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 18ed 2026 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £17,194.27 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £934.37 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn

Agor Tenderau Torri Gwair y Llwybrau Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn 4 tender i mewn i wneud y gwaith uchod. Ar ol trafodaeth cytunwyd i dderbyn tender Mr. Christian Bowater i wneud y gwaith o dorri y llwybrau cyhoeddus.

Agor Tenderau Torri Gwair y Fynwent
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn 4 tender i mewn i wneud y gwaith uchod. Ar ol trafodaeth cytunwyd i dderbyn tender Mr. Arwel Thomas i wneud y gwaith o dorri gwair y fynwent

Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £20,142.82 yn y cyfrif rhedegol a £5,816.60 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
BT - £29.84 - wi-fi y neuadd
Mr. Christian Bowater - £126.00 - torri gwair y llwybrau
Mrs Annwen Hughes - £499.98 (cyflog 3 mis) + £393.24 (costau blwyddyn) = £898.22

Ceisiadau am gymorth ariannol
CFFI Meirionnydd
ATC Ardudwy Squadron £150

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. David John Roberts a wnaeth y Cyng. Russell Sharp gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers Mawrth)
Pritchard a Griffiths - £1,960.50 – claddu y diweddar Mrs Raye Hooban

GOHEBIAETH
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes bod Treth y Cyngor yn mynd i fod yn 5.1% am y flwyddyn ariannol nesa, ei bod wedi cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd a wedi anfon lluniau iddynt yn gofyn pam bod y cone ar ganol y maes parcio lawr yn Llandanwg ag hefyd tynnu eu sylw bod twll wrth y manhole angen sylw. Wedi derbyn e-bost gan Ms Rosy Berry yn datgan pryder bod y llwybr cyhoeddus sydd ger Cae Gwyn, Llanfair yn beryg iawn oherwydd yr holl ddwr sydd yn rhedeg o’r cae ag yn gofyn a fyddai modd gwneud lle i’r dwr gael mynd.

UNRHYW FATER ARALL
Nid oedd gan neb unrhyw fater arall i’w godi.

Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 22ain o Ebro;; 2026 am 7.30 o’r gloch

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg