YMDDIHEURIADAU
Cyng. Mair Thomas, Hywel Jones a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Russell Sharp (Cadeirydd), Guy Slater (Is-Gadeirydd), Osian Edwards, Robert G. Owen, Eurig Hughes, David J.
Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
Edwards, Cllr. Annwen Hughes (Gwynedd Council).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 7ed 2026 fel rhai cywir.
MATERON YN CODI
Torri Gwair Llwybrau Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid hysbyseb ynglyn ar uchod yn Llais Ardudwy, yr hysbysfwrdd yn y pentre ag ar wefan y Cyngor a bod y dyddiad cau ar yr 28ain o’r mis hwn a nid oedd wedi derbyn ddim ymatebion eto er bod rhai wedi datgan diddordeb yn y gwaith. Bydd y tenderau a ddaw I law yn cael eu hagor yng nghyfarfod nesa y Cyngor.
Torri Gwair y Fynwent Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid hysbyseb ynglyn ar uchod yn Llais Ardudwy, yr hysbysfwrdd yn y pentre ag ar wefan y Cyngor a bod y dyddiad cau ar yr 28ain o’r mis hwn ag ei bod wedi derbyn rhai ymatebion a bod rhai eraill wedi datgan diddordeb yn y gwaith. Bydd y tenderau a ddaw I law yn cael eu hagor yng nghyfarfod nesa y Cyngor.
Ceisiadau Cynllunio
Ddim wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £18,240.22 yn y cyfrif rhedegol a £5,816.60 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BT
£29.84 - wi-fi y neuadd
Mr. M. J. Kerr - £500.00 - agor bedd y diweddar Mrs Raye Hooban
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y y Cyng. Robert Owen a wnaeth y Cyng. Eurig Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mising
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Chwefror)
Cyngor Gwynedd - £402.50 – ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus
Cyngor Gwynedd - Adran Gyfreithiol Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Pen y Glyn i’r ffordd sy’n arwain i Gapel Engedi o’i gyffordd gyda’r ffordd i’r de o Fferm y Foel i Gerddi Bluog yn cael ei chau ar y 5ed o Fawrth er mwyn cario allan gwaith ffilmio
Cyngor Gwynedd - Adran Economi:
Cyngor Gwynedd - Adran Economi
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd grant ar gael i Gynghorau Cymuned drwy Cronfa Cefnogi Cymghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd 2026 a bydd y wybodaeth lawn ynglyn ar grant dan sylw yn cyrraedd y Cyngor ddechrau mis nesa. Bwriad y gronfa yw cefnogi prosiectau cyfalaf sy’n gwella gofodau cymunedol, mannau cyhoeddus ac yn cyfrannu at adfywio lleol ag yn annog i’r Cyngor ddechrau meddwl am brosiectau posib. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod.
through the Gwynedd 2026 City, Town and Community Council Support Fund, and full information regarding the
grant in question will reach the Council early next month. The aim of the fund is to support capital projects that
improve community spaces, public areas, and contribute to local regeneration, and encourages the Council to start
thinking about possible projects. The Clerk had already forwarded this to all Members.
Cyngor Gwynedd - Adran Priffyrdd Wedi derbyn ateb gan Rheolwr TCC ac Edrychiad Stryd yn datgan nid yw ceisiadau am finiau ailgylchu stryd yn cael eu prosesu ar hyn o bryd a bod pob cais o’r fath wedi cael ei ohirio am y tro ledled y sir. Hefyd yn datgan bod y Gwasanaeth Edrychiad Stryd ar hyn o bryd yn asesu eu gallu gyda’r adnoddau presennol i ychwanegu at nifer y biniau ailgylchu stryd sydd eisoes wedi eu gosod.
UNRHYW FATER ARALL
Adroddodd y Cyng. Robert G. Owen bod ef ar Cyng. Mair Tbhomas wedi mynychu cyfarfod diwethaf y neuadd
ag adroddwyd bod y sefyllfa ariannol yn foddhaol a wedi derbyn £300 er cof am y diweddar Mrs Doreen Roberts
the late Mrs. Doreen Roberts.
Roedd penderfyniad wedi cael ei wneud byddai y pwyllgor yn codi £175 ar Gyngor Gwynedd am logi y neuadd am y diwrnod cyfan ar ddiwrnod yr Etholiad yn mis Mai.
Bydd y cyfarfod nesa a fydd yn gyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal ar nos Fercher y 25ain o Fawrth
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 11eg o Fawrth am 7.30 o'r gloch